Fe fydd gwasanaeth telewerthu Saesneg yn dechrau ar sianel S4C yn ystod y nos o nos Wener ymlaen.

Yn ystod y rhaglenni, fe ddywedodd llefarydd ar ran y sianel y bydd cyfle i’r cyhoedd brynu eitemau fel “peiriannau ffitrwydd, matresi a cholur”.

Wrth gydnabod mai Saesneg fydd y rhaglenni, pwysleisiodd “nad S4C fydd yn cynhyrchu’r rhaglenni o gwbl” ac “na fyddai’r rhaglenni’n rhan o arlwy S4C” gan mai dim ond “gwerthu’r oriau fydd S4C”.

“Fe fydd y rhaglenni ymlaen ar ôl i S4C ddod i ben,” meddai’r llefarydd wrth Golwg360.

Fe fydd y gwasanaeth yn dechrau o nos Wener 4 Chwefror ymlaen ac eithrio’r nosweithiau pan mae’r Sianel yn darlledu sesiynau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, meddai’r sianel heddiw.

“Bydd y telewerthu yn cael ei ddarlledu o nos Wener i nos Sul yn ystod yr wythnosau pan mae’r Cynulliad yn cwrdd a thrwy’r wythnos pan fo’r Cynulliad yn cymryd egwyl.”

“Mae’n ddyletswydd ar S4C ddenu incwm mewn gwahanol ffyrdd er mwyn diogelu’r gwasanaeth craidd i’n gwylwyr. Bydd y gwasanaeth telewerthu yn ymddangos ar ôl i wasanaeth S4C gau am y nos,” meddai Elin Morris, Cyfarwyddwr Polisi Corfforaethol a Masnachol S4C.