Mae’r heddlu yn Llanelli wedi arestio llanc 18 oed mewn cysylltiad â thân mawr yn archfarchnad Asda neithiwr.

Mae’r llanc, sy’n byw’n lleol yn cael ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo gael ei holi’n ddiweddarach.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i’r archfarchnad yn Stryd Murray am 8.17pm nos Fercher. Fe lwyddodd 25 o staff a 60 o gwsmeriaid i adael yr adeilad yn ddiogel.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru nad oedd unrhyw niwed strwythurol i’r adeilad ond mae disgwyl i’r archfarchnad for ar gau tra bod y cwmni yn asesu’r difrod i’r stoc.

Dyw canolfan siopa Sant Elli ddim wedi cael ei heffeithio gan y tân.

Roedd saith injan dân ar y safle neithiwr ond fe lwyddodd y diffoddwyr tân i ddod â’r fflamau dan reolaeth.

“Roedd llawer o fwg ar y safle,” dywedodd  llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân.

Mae  ymchwiliad i achos y tân yn parhau bore ma ac mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.