Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i  dân yn archfarchnad Asda yn Llanelli neithiwr.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i’r archfarchnad yn Stryd Murray am 8.17pm nos Fercher.

Roedd saith injan dân ar y safle neithiwr ond fe lwyddodd y diffoddwyr tan i ddod a’r fflamau dan reolaeth.

“Roedd llawer o fwg yn y lleoliad, yn hytrach na thân mawr,” dywedodd  llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru heddiw.

Roedd un injan dân wedi aros ar y safle dros nos, ac fe fydd ymchwiliad i achos y tân yn cychwyn bore ma.