Carl Whant
Mae dyn 27 oed wedi cael ei ddedfrydu i oes o garchar heddiw am lofruddio’r ferch feichiog Nikitta Grender.

Clywodd Carl Whant heddiw y byddai’n treulio o leia’ 35 mlynedd dan glo, wedi i’r rheithgor ei gael yn euog o gyhuddiadau o dreisio Nikitta Grender, ei lladd, rhoi ei fflat ar dân, a dinistrio’r baban yn ei chroth.

Roedd y ferch 19 oed o fewn pythefnos o roi genedigaeth i’w merch fach pan ddaeth Carl Whant i’w fflat o gwmpas 5am, ar 5 Chwefror y llynedd.

Cafodd  Nikitta Grender ei threisio, cyn cael ei thrywanu gan y gwerthwr ffenestri, oedd yn gefnder ac yn ffrind gorau i’w chariad, Ryan Mayes.

Cyn gadael, roedd Carl Whant wedi rhoi fflat Nikitta Grender ar dân.

Er iddo gael gwared ar yr arf a ddefnyddiodd i ladd  Nikitta Grender, fe arestiwyd Carl Whant bedwar diwrnod wedi’r llofruddiaeth, yn dilyn darganfod tystiolaeth DNA o’r fflat ac o’i gar.

Wrth gyhoeddi’r ddedfryd heddiw, rhybuddiodd y barnwr Mr Ustus Griffith Williams bod angen i’r cyhoedd gadw’r heddwch.

“Mae’n rhaid i ni atal unrhyw fath o ymyrraeth ar yr hyn sy’n weddill o’r achos,” meddai.