Carl Whant
Fe fydd rheithgor yn achos dyn o Gasnewydd sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio merch feichiog yn parhau i ystyried eu dyfarniad heddiw.

Cafodd y rheithgor eu hanfon adref ddoe ar ôl treulio’r diwrnod yn ystyried eu dyfarniad.

Mae Carl Whant, 27 oed, o Betws, Casnewydd wedi ei gyhuddo o lofruddio Nikitta Grender, 19 oed, ac o ladd y baban yn ei chroth, ei threisio a rhoi ei fflat ar dân. Mae’n gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Cafwyd hyd i Nikitta Grender yn farw yn ei fflat yn Llysweri, Casnewydd ar 5 Chwefror y llynedd. Roedd hi wedi cael ei thrywanu a’i fflat wedi cael ei roi ar dân.

Roedd disgwyl iddi roi genedigaeth i’w merch fach o fewn pythefnos.

Wrth grynhoi’r achos yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Llun, dywedodd y barnwr Mr Ustus Griffith William y dylai’r rheithgor ystyried y dystiolaeth mewn modd di-duedd a di-emosiwn wrth ddod i benderfyniad.