Ieuan Wyn Jones
Mae Plaid Cymru wedi galw am ymchwiliad manwl i wariant Byrddau Iechyd Cymru heddiw, wedi iddi ddod i’r amlwg fod taliadau ychwanegol i achub y Byrddau wedi dyblu mewn tair blynedd.

Mae Plaid Cymru’n dweud fod y ffigyrau swyddogol yn dangos fod taliadau blynyddol i achub byrddau iechyd Cymru wedi codi o £62.5 miliwn yn 2009/10 i £133 miliwn yn 2011/12 – a bod y Llywodraeth yn dal i ddisgwyl diffyg o rhwng £27 miliwn a £45 miliwn eleni.

Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, mae’r ffigyrau yn dangos “camreolaeth alaethus” o arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, a hynny ar adeg pan fod cyllidebau yn crebachu.

Mae AC Ynys Môn hefyd yn beirniadu cynlluniau ailstrwythuro’r Llywodraeth ar gyfer y gwasanaeth iechyd, gan ddweud y dylai’r pwyslais fod ar fynd i’r afael â chamreoli ariannol yn gyntaf.

‘Ymchwiliad brys’

“Rhaid cael ymchwiliad brys i’r hyn sy’n digwydd,” meddai Ieuan Wyn Jones.

“Mae Llywodraeth Cymru yn awr mewn sefyllfa lle bydd ei chyllideb yn parhau i grebachu dros y blynyddoedd i ddod – bydd arian yn brin a’r unig ffordd o gynnal gwasanaethau yw os caiff Gweinidogion y gwerth mwyaf am bob punt a werir.

“Ac eto, dengys y ffigyrau hyn fod y Llywodraeth yn methu â rheoli eu gwariant. Mae arian i achub y byrddau wedi dyblu mewn cwta tair blynedd, ac nid yw’n edrych fel petai neb yn mynd i’r afael â’r sefyllfa.

“Nid yw penderfyniad Llafur i ailstrwythuro gwasanaethau iechyd ledled Cymru yn ddim mwy na thacteg niweidiol i dynnu sylw. Mae angen i’r Llywodraeth roi camau rheoli ariannol go-iawn ar waith er mwyn gofalu bod arian y trethdalwyr yn cael ei wario yn effeithiol.

“Mae Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, Caerdydd a’r Fro ac Aneurin Bevan oll wedi gorfod derbyn symiau sylweddol o arian i’w cadw i fynd dros y blynyddoedd diwethaf, ac eto, mae camreoli yn dal i ddigwydd.

“Mae hi wedi dod i’r amlwg fod £80m yn ychwanegol eisoes wedi ei neilltuo dros 4 blynedd i Hywel Dda. Methodd y Llywodraeth ag egluro i ba bwrpas y mae’r arian hwn, ond byddwn ni yn mynnu atebion.”