Carl Whant
Mae’r rheithgor yn achos llofruddiaeth y ferch feichiog Nikitta Grender wedi dechrau ystyried eu dyfarniad.

Ddoe, wrth grynhoi’r achos yn Llys y Goron Casnewydd, dywedodd y barnwr Mr Ustus Griffith William y dylai’r rheithgor ystyried y dystiolaeth mewn modd di-duedd a di-emosiwn wrth ddod i benderfyniad.

Cafwyd hyd i Nikitta Grender, 19 oed, yn farw yn ei fflat yn Llysweri, Casnewydd ar 5 Chwefror y llynedd. Roedd hi wedi cael ei thrywanu a’i fflat wedi cael ei roi ar dân.

Roedd disgwyl iddi roi genedigaeth i’w babi o fewn pythefnos.

Mae Carl Whant, 27 oed, o Betws, Casnewydd yn gwadu ei llofruddio, lladd y baban yn ei chroth, ei threisio a rhoi ei fflat ar dân.

Tystiolaeth

Mae’r erlyniad yn honni bod Whant wedi llofruddio Nikitta Grender ar ôl iddo adael  parti mewn tŷ yn ystod oriau mân y bore. Roedd wedi mynd i’r parti gyda chariad Nikitta, Ryan Mayes.

Wrth grynhoi ddoe, dywedodd Gregg Taylor QC bod semen Whant wedi ei ddarganfod yng nghorff Nikitta Grender, ei gwaed ar ei ddillad ac yn ei gar, a fideo CCTV  yn dangos Whant yn gyrru wrth ymyl ei chartref y bore y cafodd ei llofruddio.

Ond dywedodd y bargyfreithiwr Christopher Kinch ar ran yr amddiffyniad, bod y dystiolaeth yn erbyn Whant yn amgylchiadol. Dywedodd bod Whant mwy na thebyg wedi dod i gysylltiad â gwaed Nikitta Grender ar ôl iddo “gael rhyw” gyda hi y diwrnod cynt.