Nikitta Grender
Mae’r barnwr yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio merch feichiog wedi dechrau crynhoi’r achos, gan ddweud wrth y rheithgor am ystyried y dystiolaeth mewn modd di-duedd a di-emosiwn wrth ddod i benderfyniad.

Cafwyd hyd i Nikitta Grender, 19 oed, yn farw yn ei fflat yn Llysweri, Casnewydd ar 5 Chwefror y llynedd. Roedd hi wedi cael ei thrywanu a’i fflat wedi cael ei roi ar dân.

Roedd disgwyl iddi roi genedigaeth i’w babi o fewn pythefnos.

Mae Carl Whant, 27 oed, o Betws, Casnewydd yn gwadu ei llofruddio, lladd y baban yn ei chroth, ei threisio a rhoi ei fflat ar dân.

Crynhoi’r achos

Yn Llys y Goron Casnewydd heddiw fe ddechreuodd y barnwr grynhoi’r achos sydd wedi para mwy na mis.

Dywedodd y barnwr Mr Ustus Griffith William bod yr achos wedi denu llawer o sylw yn y wasg ac wedi ennyn llawer o gydymdeimlad tuag at deulu Nikitta Grender. Ond dywedodd y barnwr bod yn rhaid i’r rheithgor ddiystyru hynny a dod i benderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth yn unig.

Tystiolaeth

Mae’r erlyniad yn honni bod Whant wedi llofruddio Nikitta Grender ar ôl iddo adael  parti mewn tŷ yn ystod oriau mân y bore. Roedd wedi mynd i’r parti gyda chariad Nikitta, Ryan Mayes.

Wrth grynhoi, dywedodd Gregg Taylor QC bod semen Whant wedi ei ddarganfod yng nghorff Nikitta Grender, ei gwaed ar ei ddillad ac yn ei gar, a fideo CCTV  yn dangos Whant yn gyrru wrth ymyl ei chartref y bore y cafodd ei llofruddio.

Ond dywedodd y bargyfreithiwr Christopher Kinch ar ran yr amddiffyniad, bod y dystiolaeth yn erbyn Whant yn amgylchiadol. Dywedodd bod Whant mwy na thebyg wedi dod i gysylltiad â gwaed Nikitta Grender ar ôl iddo “gael rhyw” gyda hi y diwrnod cynt.

Fe fydd Mr Ustus William yn parhau i grynhoi’r achos yfory.