Simon Thomas AC
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu’r system bandio ysgolion yn gyfan gwbwl, ar ôl y cyhoeddiad eu bod am ohirio bandio ysgolion cynradd tan 2014.

Yn ôl llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas AC, dylai’r Llywodraeth gymryd y “cam anrhydeddus” o ddileu’r cynllun heddiw, wedi i’r Gweinidog Addysg gyhoeddi nad oedd ganddo  ddigon o wybodaeth ar gyfer creu’r system bandio ar hyn o bryd.

Mae Simon Thomas nawr yn dweud y dylai wynebu’r ffaith “nad oedd cefnogaeth i’w gynlluniau.”

Cyhoeddodd Leighton Andrews AC heddiw na fyddai bandio ysgolion cynradd yn cael ei gyflwyno eleni, yn ôl y disgwyl. Yn hytrach, dywedodd y byddai asesiad o safonau darllen a rhifedd ysgolion cynradd Cymru nawr yn cael eu casglu ar gyfer creu system bandio erbyn Medi 2014.

‘Dim cefnogaeth’

Ond mae Simon Thomas AC wedi galw ar y Gweinidog i roi’r gorau i’r cynllun yn gyfan gwbwl.

“Gorfodwyd y Gweinidog Llafur i weithredu fel hyn ar ôl iddi ddod yn amlwg nad oedd cefnogaeth i’w gynlluniau,” meddai. “Bellach, dylai gymryd y cam anrhydeddus a rhoi’r gorau i’r syniad yn llwyr. Mae Plaid Cymru wedi dweud dro ar ôl tro y dylid dileu bandio ar gyfer ysgolion cynradd.”

Mae Plaid Cymru yn dweud y dylid cyflwyno system gwell ar gyfer mesur perfformiad ysgolion.

“Nid yw’r Blaid yn credu fod bandio yn rhoi gwedd gyflawn ar berfformiad ysgol,” meddai Simon Thomas.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno proses werthuso adeiladol fydd yn arwain at gefnogaeth wedi ei dargedu er mwyn gwella perfformiad gwael mewn ysgolion.”

Croeswu’r penderfyniad

Mae’r cyhoeddiad hefyd wedi cael ei groesawu gan undeb athrawon yr NUT, sy’n dweud ei bod hi’n galonogol bod y Gweinidog wedi gwrando ar farn athrawon trwy ohirio’i gynlluniau.

“Mae hyn yn newyddion ardderchog i’r athrawon hynny sydd wedi cysylltu â ni gyda phryderon yn ymwneud â chyflwyno system bandio ar gyfer ysgolion cynradd,” meddai David Evans, Ysgrifennydd NUT Cymru.

“Yn amlwg, mae nifer fawr o anawsterau wedi codi wrth ddod o hyd i system a fyddai’n gweithio ar gyfer y sector cynradd a dylid canmol y Gweinidog am gymryd y weithred hon.

“Rydym yn falch iawn fod y Gweinidog wedi gwrando arnom ni a’r proffesiwn ac wedi gohirio cyflwyno’r bandiau,” meddai.

“Rydym wedi beirniadu’r Gweinidog Addysg yn y gorffennol ar feysydd ble rydym wedi anghytuno, ond mae ei gyhoeddiad heddiw yn sicr yn haeddu canmoliaeth ac yn dangos ei fod wedi bod yn barod i wrando ar y dadleuon, a gwneud penderfyniad er budd plant Cymru.”