Leighton Andrews
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd y cynllun bandio ysgolion cynradd yn cael ei ohirio nes 2014.

Yn ôl y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, bydd y system bandio nawr yn cael ei chyflwyno ym mis Medi 2014, yn hytrach nag eleni.

Dywedodd y Gweinidog fod y cynllun wedi wynebu sawl her yn ystod y misoedd diwethaf, ac nad oedd hi’n bosib llunio system bandio cynhwysfawr o’r wybodaeth oedd ar gael ar hyn o bryd.

‘Problemau’

Y ddau brif broblem, meddai Leighton Andrews, oedd “cysondebau asesiadau gan athrawon,” a’r “nifer fawr o ysgolion sydd â nifer fach o ddisgyblion.”

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi wynebu beirniadaeth gan y gwrthbleidiau dros eu cynlluniau i gyflwyno system bandio i ysgolion cynradd Cymru, gan ddweud ei fod yn gynllun gwbl anymarferol oherwydd  nifer yr ysgolion bach yng Nghymru.

Fis diwethaf, fe rybuddiodd Simon Thomas AC, Plaid Cymru, y byddai “rhwng 30-40% o ysgolion” ddim yn cael eu cynnwys yn y system, oherwydd mai dim ond ysgolion gyda dros 30 o blant fyddai yn cael eu hystyried.

“Fy nealltwriaeth i yw y byddan nhw’n gorfod cydnabod bod gymaint o ysgolion bach, ysgolion cefn gwlad yw llawer ohonyn nhw, sydd â llai na thrideg o blant, gydag un neu ddau ddosbarth,” meddai Simon Thomas ar y pryd.

“Os ydych chi’n mynd i eithrio 30-40% o ysgolion y wlad o’r system, yna dyw hi ddim yn mynd i fod yn system fandio cenedlaethol,” meddai. “Yn ystadegol mae e’n nonsens.”

‘Diffyg cysondeb’

Ond mae Leighton Andrews yn mynnu mai diffyg cysondeb rhwng asesiadau athrawon yw maen tramgwydd mwya’r cynllun ar hyn o bryd.

Dywedodd y Gweinidog fod Adroddiad y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant ar gyfer 2010-11, a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2012, yn nodi bod “agweddau ar yr asesu yn wan mewn bron hanner y 238 o ysgolion cynradd a arolygwyd o dan y Fframwaith Arolygu Cyffredin.

Ar sail hynny, dywedodd Leighton Andrews nad oedd yn teimlo bod ganddo “ddata digon cadarn ar hyn o bryd i’w defnyddio i gyfrifo’r bandiau ar gyfer ysgolion cynradd.”

Ond mae’r Gweinidog yn dweud y bydd swyddogion nawr yn gweithio tuag at ddatgblygu proffil perfformiad newydd ar gyfer pob ysgol gynradd erbyn Tymor yr Hydref 2012 – gan ddefnyddio’r wybodaeth hyn i lunio bandiau ar gyfer ysgolion cynradd Cymru erbyn mis Medi 2014.