Yr Wyddfa
Mae pryderon heddiw y gallai’r eira ddiflannu oddi ar wyneb yr Wyddfa yn barhaol os nad oes rhywbeth yn cael ei wneud ar frys i atal newid hinsawdd.

Daw’r rhybudd mewn arolwg newydd gan y Rhwydwaith Newid Amgylcheddol, sy’n datgelu fod newid hinsawdd wedi cael effaith pellgyrhaeddol ar gopa uchaf Cymru dros y 15 mlynedd ddiwethaf.

Mae’r arolwg yn nodi bod y gaeaf eleni wedi bod gydag un o’r rhai cynhesaf ar gofnod, a bod hynny’n adlewyrchu tuedd y tymhorau, er gwaetha’r eira mawr a gafwyd y llynedd a’r flwyddyn gynt.

Mae data’r Rhwydwaith Newid Amgylcheddol yn awgrymu bod hinsawdd yr Wyddfa wedi bod yn cynhesu’n raddol dros y 15 mlynedd ddiwethaf, gyda thymheredd y copa’n codi bob gwanwyn a haf, a’r gaeafau’n mynd yn wlypach ac yn gynhesach.

Ac yn ôl yr arolwg, mae mwy o löynnod nag erioed o’r blaen wedi cael eu drarganfod ar yr Wyddfa, sef pryfetach, medd y Rhwydwaith Newid Amgylcheddol, sydd yn arwydd clir o newid amgylcheddol.


Gwaith monitro ar yr Wyddfa
Pam y newid?

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru, sydd wedi bod yn cefnogi’r ymchwil dros y 15 mlynedd ddiwethaf, yn dweud mai llygredd atmosfferig sy’n bennaf gyfrifol am y newid sydd wedi bod yn hinsawdd yr Wyddfa.

Yn ôl y Cyngor, mae’r llygredd sy’n cael ei greu trwy drafnidiaeth, diwydiant, a dulliau rheoli tir cyffredin, yn cael “effaith andwyol ar y llystyfiant” sydd i’w ddarganfod ar gopa uchaf Cymru.

Ond mae’r sefyllfa yn gwella, yn ôl y Cyngor, wrth i nifer y defaid sy’n pori’r ucheldiroedd yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf ostwng, mae mwy o rug a glaswellt y gweunydd yn tyfu ar yr Wyddfa, ac mae hyn yn ei dro yn arwain at well amrywiaeth o blanhigion – a mwy o gynhaliaeth ar gyfer bywyd gwyllt.

Mae’r Cyngor hefyd yn canmol ymgyrch y DU i leihau allyriadau carbon, gan ostwng effeithiau’r diwydiannau trwm ar amgylchfyd naturiol y wlad.

Dal i gadw llygad

Yn ôl Dylan Lloyd, Swyddog Goruchwylio’r Amgylchedd gyda’r Cyngor Cefn Gwlad, ac un o awduron yr adroddiad, mae’r arolwg yn datgelu “gwybodaeth werthfawr am effaith y newidiadau yma ar gynefinoedd naturiol Yr Wyddfa.”

Dywedod Dylan Lloyd fod disgwyl i’r gwaith monitro agos ar yr Wyddfa, a’r 11 lleoliad arall ar draws y DU, barhau am amser hire to, er mwyn “parhau i olrhain newidiadau yn yr hinsawdd, mewn llygredd sy’n cael ei gario yn yr aer ac mewn dulliau rheoli tir.

“Mae bod yn rhan o rwydwaith ehangach o safleoedd ledled y DU yn rhoi mwy o werth i’n casgliadau. Mi allwn ni wahaniaethu rhwng amrywiadau tymor byr a phatrymau tymor hir. O’r herwydd, mae safleoedd y Rhwydwaith Newid Amgylcheddol yn amhrisiadwy wrth ymchwilio i iechyd yr ecosystemau sydd mor bwysig inni,” meddai.