Arweinydd Llafur, Ed Miliband
Mewn araith yng Nghaerdydd heddiw, apeliodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, ar bobl yr Alban i beidio â gadael y Deyrnas Unedig.
Gan ddweud ei fod wrth ei fodd o gael bod yn ôl yn “Labour Wales”, meddai wrth gynhadledd Llafur Cymru yn stadiwm Swalec:
“Mae datganoli wedi gweithio. Nid yn unig i bobl Cymru ond i bobl yr Alban ac i bobl y Deyrnas Unedig yn ogystal.
“Mae gennym ddyletswydd, ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig, i ymladd dros ein Teyrnas Unedig.
“Yn economaidd, rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd.”
‘Cyfalafiaeth anghyfrifol’
Wrth ganmol llywodraeth Carwyn Jones am y ffordd “gyfrifol” yr oedden nhw’n rhedeg Cymru “er lles cymdeithas”, cyhuddodd lywodraeth Prydain o wneud llanast o’r economi ac o ledu’r bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog.
“Mae gormod o’n heconomi’n seiliedig ar gyfalafiaeth anghyfrifol,” meddai.
Ymosododd hefyd ar Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.
Dywedodd fod Aelod Seneddol Chesham ac Amersham â mwy o ddiddordeb mewn gwrthwynebu rheilffordd gyflym trwy ei hetholaeth nag mewn ymladd dros “bobl ddi-waith Caerdydd neu fusnesau bach Abertawe.”
“Nid dynes Cymru ar fwrdd y Cabinet yw hi’n gymaint â dynes swydd Buckingham yng Nghymru.”