Mae swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn ymchwilio ar ôl derbyn adroddiadau bod llygredd yn Afon Irfon, rhwng Cimleri a Llanfair ym Muallt.

Clywodd yr Asiantaeth am y llygredd am y tro cyntaf y bore ’ma, wedi i aelod o’r cyhoedd gysylltu gan ddweud bod chwe brithyll marw wedi eu darganfod yno’r bore ’ma.

Mae swyddogion yr Asiantaeth wedi ymweld â’r safle erbyn hyn ac wedi cymryd samplau dŵr er mwyn eu dadansoddi.

Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd heddiw eu bod nhw’n “ddiolchgar i’r aelod o’r cyhoedd a roddodd gwybod i’r Asiantaeth”.

“Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio atal rhagor o niwed amgylcheddol.

“Rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n gweld arwyddion o lygredd neu berygl i’r amgylchfyd lleol i gysylltu â ni ar unwaith ar ein llinell gyswllt: 0800807060.”