Mae cyhoeddwr cylchgrawn Cambria wedi dweud bod colli cefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru wedi bod yn “sioc uffernol”.

Dywedodd Frances Davies ei fod yn teimlo bod Cambria yn apelio at farchnad fwy eang na chylchgronau mwy uchel ael.

Penderfynodd Cyngor Llyfrau Cymru i beidio cynnig grant i’r cylchgrawn rhwng 2012 a 2014 gan gyfeirio at raglen gyhoeddi afreolaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Yn sgil y newidiadau, mi fydd Poetry Wales yn derbyn £28,450, Planet yn derbyn £70,300, a’r cylchgrawn New Welsh Review yn derbyn £58,907.

Bydd y cylchgrawn Agenda yn derbyn grant o £8,000 yn hytrach na chylchgrawn Cambria.

“Roedd hi’n sioc uffernol pan glywsom ni, am ein bod ni’n teimlo fod Cambria yn cynnig gwerth da, o’i gymharu gyda chylchgronau eraill,” dywedodd Frances Davies.

“Rydyn ni wedi cyhoeddi’r cylchgrawn ar gyllid bychan erioed. Roedd y grant yn fach iawn ond yn ddigon i dalu’r cyfranwyr.

“Mae’r cylchgronau sy’n dal i dderbyn cyllid gan y Cyngor Llyfrau yn rhai academaidd iawn, o ran eu disgwyliadau a’u cynnwys.”

Dywedodd Frances Davies mai nifer fechan o ddarllenwyr oedd gan rhai o’r cylchgronau eraill, o’u cymharu â Cambria.

“Ein bwriad ni fel cylchgrawn yw bod yn ddiddorol, yn addysgiadol, ac yn ddarllenadwy i amrywiaeth o ddarllenwyr,” meddai Frances Davies. “Mae lot o’r ysgrifennu academaidd yn annarllenadwy.”

Mae Frances Davies yn gweithio ar gylchgrawn Cambria, yn ardal Nantgaredig, gyda’i gŵr, y sylfaenydd Henry Jones-Davies.

Diwedd yr adran lenyddol

Dywedodd Frances Davies ei fod yn bur debyg na fydd Cambria yn gallu parhau â’i adran llenyddiaeth, sy’n cael ei olygu gan yr Athro Meic Stephens.

“Mae hynny’n newyddion trist iawn i’n darllenwyr,” meddai.

Dywedodd Cyngor Llyfrau Cymru nad oedd Cambria wedi cadw at eu hamserlen cyhoeddi, a bod hynny’n rhan allweddol o’r penderfyniad.

Ond dywedodd Frances Davies nad oedd y cyngor wedi cyfeirio at hynny yn ystod y cyfarfod i drafod y grant.

“Doedd neb wedi gofyn am y peth yn ystod y cyfarfod,” meddai Frances Davies.

Dyfodol Cambria

“Rydym ni’n ystyfnig iawn,” dywedodd Frances Davies, wrth drafod cynlluniau’r cylchgrawn ar gyfer y dyfodol.

“Pan ddechreuodd Henry’r cylchgrawn, roedd pawb yn dweud wrtho fod cylchgronau yn mynd a dod. Mae nifer fawr o gylchgronau wedi mynd a dod dros y blynyddoedd, ond rydym ni wedi bod yma am bymtheg mlynedd.”

Dywedodd hefyd fod y syniad o gau’r cylchgrawn yn un anodd ei ystyried,  a’u bod nhw wedi derbyn cefnogaeth gref gan eu darllenwyr.

“Dydyn ni ddim yn gallu siomi ein darllenwyr,” meddai hi. “Rydym ni’n cael llawer iawn o gefnogaeth gan ein darllenwyr.”