Mark Drakeford
Mae un o ACau Llafur wedi rhybuddio bod San Steffan yn bwriadu “dadlwytho cyfrifoldebau” ar Lywodraeth Cymru nad ydyn nhw eu heisiau.

Daw rhybudd Mark Drakeford wrth i bapur gwyn ar newidiadau i’r wladwriaeth les gael eu trafod yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae’n dweud fod San Steffan wedi cynnig trosglwyddo cyfrifoldeb dros y Gronfa Gymdeithasol i Fae Caerdydd, er mwyn osgoi gorfod delio ag ef eu hunain.

Mae’r gronfa werth £9.8 miliwm ac yn darparu grantiau cymdeithasol i’r rheini sydd eu hangen.

Y llynedd fe wnaed cais am gefnogaeth ariannol gan y Gronfa Gymdeithasol gan 93,000 o Gymry.

Hwn fydd y tro cyntaf i Lywodraeth San Steffan gynnig trosglwyddo grym dros unrhyw faes i Lywodraeth Cymru heb fod Cymru wedi gorfod gofyn amdano gyntaf.

Roedd hynny wedi cynyddu’r amheuaeth, medd Mark Drakeford, fod San Steffan eisiau dadlwytho’r cyfrifoldebau llai deniadol ar y gwledydd datganoledig.

“Dros ddegawd o ddatganoli mae’r Cynulliad wedi gofyn i San Steffan i drosglwyddo grymoedd bob tro,” meddai.

“Yn yr achos yma mae San Steffan wedi dweud wrth Gymru a’r Alban nad ydyn nhw erioed wedi gofyn am hyn, ond ei fod yn rhywbeth y maen nhw’n mynd i orfod cymryd cyfrifoldeb drosto.

“Yn yr Alban yn sicr mae yna drafodaeth y dylid derbyn hyn ai peidio. A yw’n bosib gorfodi’r gwledydd datganoledig i dderbyn grymoedd? Dwi’n meddwl mai dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd.”

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi dogfen ymgynghorol ar y mater, gan ystyried sut y byddai’r arian yn cael ei ddosbarthu yng Nghymru petai’r grym yn cael ei drosglwyddo i Fae Caerdydd yn sgil y Bil Newidiadau i’r System Lles.

Y drafferth

Mae Mark Drakeford yn rhybuddio y gallai rheoli’r Gronfa Gymdeithasol fod yn drafferthus, ac nad yw’r arian sydd ar gael yn y gronfa wedi cwrdd â’r galw.

“Byth ers iddo gael ei sefydlu ddiwedd yr 80au, mae’r gronfa wedi ei lethu gan y galw. Dyw’r gronfa erioed wedi gallu ymdopi â’r galw arno,” meddai.

“Dwi’n meddwl y system sydd y tu cefn i’r Gronfa Gymdeithasol yn ddiffygiol iawn. Bydd y galw yn cynyddu â’r cynnydd mewn diweithdra a thoriadau i sefydliadau eraill.”