Mae cwmni dŵr sy’n gwasanaethu rhan o Gymru wedi dweud heddiw ei fod yn bosib y bydd rhaid iddyn nhw reoli faint o ddŵr y mae eu cwsmeriaid yn ei ddefnyddio.

Dywedodd Severn Trent, sy’n gwasanaethu canolbarth Lloegr a rhan o Bowys, bod diffyg glaw dros y gaeaf yn golygu bod eu cronfeydd dŵr yn wacach nag arfer.

Er mwyn arbed dŵr roedden nhw wedi dechrau trosglwyddo dŵr o orllewin gwlyb eu rhanbarth i’r dwyrain sychach, medden nhw.

“Rydyn ni’n cadw llygad cyson ar y sefyllfa ac mae’r cwmni wedi geithredu er mwyn sicrhau nad ydyn ni’n gwastraffu unrhyw ddŵr,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

Dywedodd y cwmni fod llai o alw am ddŵr yn 2011/12, wrth i gwmnioedd golli gwaith a chwsmeriaid dorri’n ôl, yn golygu y bydd y dwr yn cael ei ddefnyddio’n arafach.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud fod rhannau o  Loegr yn parhau i ddioddef o sychdwr ar ôl misoedd o lai o ddŵr nag arfer.