Mae nifer yr ymosodiadau treisgar ar athrawon wedi codi dros draean yn ystod y tair blynedd diwethaf, yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r ffigyrau a ryddhawyd i Geidwadwyr Cymru yn dangos bod nifer yr ymosodiadau ar athrawon wedi codi 50% mewn ambell i awdurdod lleol, gan gynnwys Abertawe, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf.

Cynnyddodd nifer y disgyblion a gafodd eu hatal o’r ysgol ar ôl ymosodiadau o’r fath o 913 yn 2007/08 i 1,234 yn 2010/11.

“Mae’r ffigyrau yma yn frawychus, ac yn dangos yr her sy’n wynebu athrawon yn y dosbarth,” meddai llefarydd yr wrthblaid ar addysg, Angela Burns.

“Mae’r ystadegau yn dangos sut y gallai bygythiad trais wneud dysgu yn hunllef i’n hathrawon.

“Nid yn unig y mae ymddygiad ymosodol yn y dosbarth yn fygythiad i’n hathrawon, ond hefyd i ddisgyblion.

“Ers 2007 mae nifer yr ymosodiadau ar athrawon wedi cynyddu dros draean ac wedi dyblu mewn rhai ardaloedd.

“Mae’r ffigyrau yn dangos nad ydi gweinidogion addysg Llafur wedi cefnogi athrawon wrth adfer disgyblaeth yn y dosbarth.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnu ar fiwrocratiaeth ddiangen a gweithio’n agosach â disgyblion trafferthus sydd yn aflonyddu ar addysg y mwyafrif.”