Charles Dickens
Mae tystiolaeth newydd wedi dod i law Golwg am gysylltiad posib rhwng Charles Dickens a’r Gymraeg.

Wrth nodi dau ganmlwyddiant ei eni, mae apêl am wybodaeth all gadarnhau bod Cymro ymhlith ei gylch o ffrindiau yn Llundain yn y 1800au.

Yn ôl Gruffydd Aled Williams o Aberystwyth mae dogfen Gymraeg wedi’i darganfod mewn casgliad yn yr Unol Daleithiau sy’n perthyn i un o ffrindiau agosaf yr awdur yn y cyfnod.

“Fe ganfu yn llyfrgell Prifysgol Princeton albwm llofnodion a berthynai i Ellen Beard, chwaer i Thomas Beard, cyfaill oes Dickens, a chwaer hefyd i Frank Beard, ei feddyg,” meddai.

“Yn yr albwm fe geir pennill Cymraeg dienw na ŵyr neb pwy a’i sgrifennodd.” meddai Gruffydd Aled Williams am y gerdd sydd wedi’i hysgrifennu am Ellen Beard;

‘Moesau da, a calon lon,

Pob hedd, a golud ddigon

Vo i ti, tra dan y nen,

Y lanna un, vy Elen.’

Yn 2007 cyhoeddodd erthygl yn y cylchgrawn Llên Cymru yn tynnu sylw at waith ysgolhaig ym mhrifysgol Princeton. “Fe awgryma Robert C Hanna, awdur y nodyn yn Llên Cymru, fod y pennill Cymraeg a cherdd Dickens wedi eu sgrifennu yn yr albwm ar yr un diwrnod. Pwy, tybed, oedd y Cymro/Cymraes a oedd, efallai, yn adnabod  Dickens?”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 16 Chwefror