Ysbyty Gwynedd, Bangor
Mae nifer o wardiau mewn ysbytai yng Ngogledd a De Cymru wedi cau oherwydd y Norofirws ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi galw ar bobl i ystyried yn ofalus cyn ymweld â chleifion.

Mae chwe ward wedi eu cau’n rhannol yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, dwy yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ac un yn Ysbytai Cymunedol Bae Colwyn a Thywyn.

Yn Ysbyty Wrecsam Maelor mae ward ar gau ac  un wedi ei chau’n rhannol.

Y Ne Cymru, dywedodd Awdurdod Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bod wardiau penodol wedi cau, ond mae’r sefyllfa yn newid yn ddyddiol, a dylid cysylltu gyda’r ward unigol neu ymweld â’r safle we.

“Y lle delfrydol i’r firws hwn ledu ydy unrhyw fan lle mae nifer fawr o bobol yn dod at ei gilydd,” dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Dyma’r rheswm pam bod yr afiechyd yn arbennig o gyffredin mewn ysbytai.”

“Rydym yn gobeithio rheoli a chael gwared â’r firws drwy ofyn i bobl ymweld dim ond pan fo wirioneddol raid ac osgoi cyswllt rhwng cymaint o bobl â phosib tan o leiaf 48 awr wedi i’r symptomau glirio.”

Osgoi lledu’r afiechyd

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell:  “Mae Norofirws yn annifyr iawn i’r rhai sy’n ei gael, ond dyw e ddim yn beryglus ar y cyfan, a bydd y mwyafrif o bobl yn gwella’n llawn mewn cwpwl o ddyddiau, heb orfod gweld doctor.”

“Oni bai fod pobl yn poeni’n fawr am eu hiechyd, dylen nhw osgoi mynd i’r ysbyty neu gweld y doctor, gan eu bod nhw’n gallu lledu’r afiechyd,” meddai Tony Jewell.

Y cyngor cyffredinol yw gorffwys ac yfed digon o ddŵr.

“Rhaid cymryd gofal os yw babanod neu’r henoed yn sâl, am eu bod nhw’n gallu dad-ddyfrio yn gyflym,” meddai.

Afiechyd gaeafol yw’r Norofirws, sy’n achosi chwydu a dolur rhydd.

Ni ddylai unrhyw un sydd a’r afiechyd ymweld â chleifion yn yr ysbytai, na mynd i Adrannau Argyfwng oni bai eu bod nhw wedi cael cyngor meddygol i wneud hynny.

Gall yr afiechyd  gael ei drosglwyddo trwy gyswllt gydag unigolyn heintiedig, trwy gyffwrdd â gwrthrychau heintiedig, neu trwy fwyd a diod.

Gall y symptomau bara rhwng 12 a 60 awr.