Mae gweithgareddau fel trafodaethau ffurfiol syml a gemau geiriau o fudd i bobl sydd â dementia, yn ôl adolygiad.

Dan arweiniad yr Athro Bob Woods, Canolfan Ddatblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ym Mhrifysgol Bangor mae’r adolygiad yn dangos bod gweithgareddau o’r fath yn fuddiol i’r cof, ac yn gwneud lles i bobl sydd â dementia.

Credir bod gweithgareddau sy’n ysgogi’r meddwl yn fodd o arafu dirywiad ymysg pobl â dementia.  Ysgogi gwybyddol yw’r term am y gweithgareddau hyn.

Symbyliad Gwybyddol

Yn 2011 roedd Adroddiad Alzheimer’s y Byd wedi argymell cynnig Symbyliad Gwybyddol i bawb sydd â dementia yn y camau cynnar.  Ond mae diddordeb cynyddol yn ei ddefnydd ar gyfer dementia wedi ennyn pryder yn ddiweddar ynghylch ei effeithiolrwydd ac effaith negyddol posibl ar les.

Edrychodd yr adolygiad ar ganlyniadau 15 o dreialon rheoledig ar hap o bob cwr o’r byd a oedd yn cynnwys 718 o bobl â dementia. Roedd  grwpiau bach yn cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau, yn cynnwys trafodaethau, gemau geiriau, cerddoriaeth a phobi. Roedd pob gweithgaredd wedi ei llunio i ysgogi’r meddwl a’r cof.

Cafodd y gwelliannau eu mesur yn erbyn y rhai nad oedd yn derbyn y driniaeth hon, ond yn derbyn “triniaethau safonol”, a allai gynnwys meddyginiaeth, gofal dydd neu ymweliadau gan weithwyr iechyd meddwl cymunedol, neu mewn rhai achosion gweithgareddau amgen fel gwylio’r teledu a therapi corfforol.

‘Effeithiau cadarnhaol’

“Y canfyddiadau mwyaf trawiadol yn yr adolygiad yw’r rhai sy’n ymwneud ag effeithiau cadarnhaol ysgogi gwybyddol ar berfformiad mewn profion gwybyddol,” meddai’r prif awdur, Bob Woods. “Efallai mai’r canfyddiadau hyn yw’r rhai mwyaf cyson eto ar gyfer ymyriadau seicolegol ymysg pobl â dementia.”

Sgoriodd y rhai a gymerodd ran yn yr ymarferion ysgogi gwybyddol yn sylweddol uwch mewn profion gweithrediad gwybyddol, sy’n mesur gwelliannau o ran y cof a’r meddwl.  Roedd y gwelliannau hyn yn parhau yn amlwg am gyfnod a barodd rhwng mis a thri mis wedi’r driniaeth.

Yn ogystal â hyn, gwelwyd effeithiau cadarnhaol ar gymdeithasu, cyfathrebu a rhyngweithio ac ansawdd bywyd neu les mewn nifer llai o dreialon, yn ôl adroddiadau.

Arbrawf

Mewn un arbrawf, cafodd aelodau o’r teulu eu hyfforddi i ddarparu symbyliad gwybyddol, heb unrhyw straen na gwaith ychwanegol ar y gofalwyr, yn ôl yr adolygiad.

“Mae cynnwys gofalwyr teuluol yn y ddarpariaeth o symbyliad gwybyddol yn ddatblygiad diddorol ac yn haeddu fwy o sylw,” dywedodd yr Athro Bob Woods.

“Rydym ni’n cychwyn arbrawf sylweddol i asesu’r driniaeth yma ar y cyd gyda Choleg Prifysgol Llundain yn y misoedd nesaf. Byddwn yn recriwtio pobl sydd â dementia a’u gofalwyr ledled Gogledd Cymru.”