Mae’r Comisiwn sy’n edrych ar ddatganoli yng Nghymru wedi cael eu rhybuddio heddiw na fydd unrhyw gytundeb ar ddatganoli yn bosib heb newid  system ariannu Cymru.

Mae grŵp gweithiol, dan gadeiryddiaeth cyn-Weinidog Cyllid Cymru, Andrew Davies, yn rhybuddio bod yn rhaid newid Fformiwla Barnett, sy’n penderfynu faint o arian sy’n dod i Gymru o Drysorlys San Steffan, cyn newid datganoli.

Mae’r grŵp yn dweud bod cylch gorchwyl y Comisiwn ar hyn o bryd, sy’n eu hatal rhag edrych ar Fformiwla Barnett, yn “ddiangen o gul” ac y dylid ei ymestyn.

Mae’r grŵp, sy’n cynnwys aelodau o Ganolfan Lywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, y Sefydliad Materion Cymreig, a Chymru Yfory, yn beirniadu’r ffaith fod y Comisiwn wedi cael eu hatal rhag ystyried ffyrdd mwy teg i ariannu Cymru na fformiwla dadleuol Barnett.

Mae’r Comisiwn hefyd wedi cael eu hatal rhag ystyried pwerau benthyca – sef agwedd a bwysleisiwyd yng nghyflwyniad Plaid Cymru i’r Comisiwn yr wythnos ddiwethaf.

Yr Argymhellion

Mae’r grŵp wedi rhoi wyth argymhelliad ger bron y Comisiwn heddiw, a phob un wedi ei sylfaenu ar yr angen i newid Fformiwla Barnett.

Yn ôl y grŵp, mae angen i’r Comisiwn gymryd “agwedd cyfannol at ariannu a chyllido” wrth fynd i’r afael â datganoli.

Mae gan y Comisiwn ddyletswydd o fewn eu gorchwyl o edrych ar gynyddu atebolrwydd ariannol yng Nghymru, ond eu bod wedi eu hatal rhag ystyried newid Fformiwla Barnett. Yn ôl y grŵp, mae hyn yn hurt.

“Dydyn ni’n gweld dim gobaith o sefydlu consensws dros bwerau amrywio trethi yng Nghymru heb rhyw fath o newid yn Fformiwla Barnett,” meddai’r grŵp.

Yn ôl Cadeirydd y grŵp, Andrew Davies, dylai “unrhyw newid i drefniadau cyllido fod o angenrhiad yn cynnwys newid Fformiwla Barnett i fformiwla sydd wedi ei gyfrfifo ar sail angen.

“Mae’r safbwynt hwn yn cael ei gefnogi gan y pedwar prif blaid yng Nghymru,” meddai.

“Byddai methu a gwneud hyn, ym marn y grŵp, yn gadael Cymru heb ddigon o gyllid ar gyfer ei hanghenion. Ni fyddai chwaith yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb clir yn y system bresennol.”