Simon Thomas AC
Mae AC Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am wneud tro gwael â phlant Torfaen, ar ôl i adroddiad damniol gan y corff sy’n arolygu ysgolion ddweud bod safonau addysg yn y sir yn “anfoddhaol.”

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas AC mae adroddiad Estyn yn  dystiolaeth ddamniol o’r angen am drawsnewid y system addysg yng Nghymru mewn modd radical.

Dywedodd: “Mae adroddiad Estyn yn ddamniol ac yn dystiolaeth bellach fod y system bresennol yn methu gormod o blant yn Nhorfaen, ac ar hyd a lled Cymru. Mae’n amlwg fod angen diwygio o’r bôn i’r brig. Mae ein plant yn cael eu siomi gan system nad yw’n ddigon da, ac ni allwn ganiatáu i hyn barhau.

‘Angen gwella safonau’

Roedd adroddiad Estyn yn dweud bod perfformiad cyffredinol y sir yn “anfoddhaol” ac mae’r corff wedi dweud wrth Gyngor Sir Torfaen bod angen codi safonau addysg uwchradd.

Ond roedd yr adroddiad yn dweud bod safonau yn ystod Cyfnodau Allweddol 1 a 2 wedi gwella.

Dywed Cyngor Torfaen eu bod yn derbyn casgliadau’r adroddiad a’u bod wedi cyflwyno strategaethau newydd i fynd i’r afael â’r problemau, ond ei bod yn rhy gynnar i’r canlyniadau gael eu gweld hyd yn hyn.

‘Mynd i’r cyfeiriad anghywir’

Yn ôl Simon Thomas mae angen i’r Gweinidog Addysg gymryd camau i wella safonau ym mhob ysgol.

“Mae ei gynlluniau presennol ar gyfer bandio yn mynd i’r cyfeiriad hollol anghywir, heb unrhyw system gefnogi ar gael i ysgolion sy’n methu. Byddaf yn galw ar i’r Gweinidog wneud datganiad llawn i’r Cynulliad cyn gynted ag y bo modd.”

Dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru Jeff Rees, sydd yn cadeirio’r pwyllgor craffu a goruchwylio Cymunedau Dysgu: “Mae’n siomedig fod Estyn wedi galw’r gwasanaeth addysg yn gyffredinol yn ‘anfoddhaol’ ac y mae’n bwysig fod Cyngor Llafur Torfaen yn gweithredu ar yr argymhellion.

“Rhaid gwella safonau yn gyfan gwbl. Un cyfle gaiff ein plant am addysg, ac ni allwn ganiatáu i Lafur ei wastraffu.”