Meirion Prys Jones
Chafodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ddim rhan yn y gwaith o greu fersiwn terfynol Strategaeth Iaith newydd y Llywodraeth.

Er mai nhw yw’r corff statudol i roi cyngor am faterion yn ymwneud â’r iaith, fe ddatgelodd y Prif Weithredwr nad oedd y Llywodraeth wedi ymgynghori â nhw.

Wrth gael ei holi ar raglen Dan yr Wyneb ar Radio Cymru fe ddywedodd Meirion Prys Jones eu bod wedi cynnig helpu ond nad oedd hynny wedi ei dderbyn.

Doedd gan Meirion Prys Jones ddim esboniad am hynny. “Rhaid i chi ofyn iddyn nhw,” meddai.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwadu honiadau Meirion Prys Jones. Dywedodd llefarydd ar ran y gweinidog Leighton Andrews: “Mae Meirion Prys Jones yn hollol anghywir i ddatgan nad oedd Bwrdd yr Iaith yn rhan o’r gwaith o greu fersiwn terfynol y Strategaeth Iaith.

“Roedd ef ei hun yn aelod o’r grwp oedd wedi goruchwylio’r fersiwn terfynol,” meddai’r llefarydd.

Dod i ben

Fe fydd y Bwrdd yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth ac mae ei waith yn cael ei drosglwyddo i swydd newydd y Comisiynydd Iaith ac i adran o fewn y Llywodraeth.

Roedd rhywfaint o anghytuno wedi bod rhwng y Bwrdd a’r gwasanaeth sifil tros gynnwys y Ddeddf Iaith a gafodd ei phasio y llynedd.

Mae Meirion Prys Jones hefyd wedi codi amheuon am allu’r Llywodraeth i gynnig syniadau creadigol a digon o hyblygrwydd i hyrwyddo’r iaith yn effeithiol.

Fe fydd strategaeth newydd y Llywodraeth yn cael ei chyhoeddi Ddydd Gŵyl Dewi.