Darren Millar
Mae AC Ceidwadol Gorllewin Clwyd wedi beirniadu cynlluniau Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru i gynyddu eu rhan o filiau treth y cyngor  yng Ngogledd Cymru.

O dan y cynlluniau, byddai yna gynnydd o 4% yn y swm sy’n cael ei dalu gan drethdalwyr yn eu bil treth y cyngor.

Mae Darren Millar yn dweud y  dylai’r Awdurdod ddefnyddio £2 miliwn o’r £26 miliwn  o’i chronfa wrth gefn, i leihau’r pwysau ar drethdalwyr.

“Mae pobl yng Ngogledd Cymru yn barod yn talu mwy am wasanaethau’r heddlu na phawb arall yng Nghymru, ac mae angen pob help arnyn nhw yn ystod y cyfnod economiadd anodd yma,” dywedodd Darren Millar.

Bydd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru yn cyfarfod yr wythnos hon i benderfynu ynglyn a chodi’r gyfran treth cyngor ar 1 Ebrill.