Peter Hain - beirniadu'r dyddiad
Mae yna rywfaint o anniddigrwydd o fewn yr Ymgyrch Ie yn y refferendwm ar ôl i gyn-Ysgrifennydd Cymru feirniadu amseriad y bleidlais.

Plaid Cymru oedd wedi mynnu cynnal y refferendwm ar 3 Mawrth, meddai Peter Hain, gan rybuddio y byddai nifer y pleidleiswyr yn isel.

Yn ôl arweinydd yr Ymgyrch Ie, Roger Lewis, doedd y feirniadaeth ddim o bwys – yr hyn oedd yn bwysig, meddai, oedd bwrw iddi gyda’r ymgyrch.

Pensaer

Peter Hain oedd pensaer y ddeddf y tu cefn i’r refferendwm ond fe ddywedodd wrth Radio Wales ei fod wedi gobeithio gohirio’r bleidlais tan ar ôl etholiadau’r Cynulliad.

Bellach, meddai, roedd rhai o benderfyniadau’r Llywodraeth glymblaid yn Llundain wedi ei argyhoeddi bod angen pleidlais ‘Ie’ yn awr – roedd y rheiny’n cynnwys cau’r swyddfa basports yng Nghasnewydd, torri arian S4C a dileu cynlluniau am ganolfan hyfforddi yn Sain Tathan a Morglawdd Afon Hafren.

Roedd y rheiny, meddai Peter Hain, wedi eu gwneud heb ymgynghori yng Nghymru.