Dr Tony Jewell
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn annog pobl i beidio ag yfed yn ormodol cyn y gêm rygbi rhyngwladol rhwng Cymru a’r Alban yng Nghaerdydd heddiw.

Dywedodd Dr Tony Jewell fod yna gynnydd yn nifer y galwadau dderbyniodd y gwasanaeth ambiwlans yn ystod buddugoliaeth Cymru dros y Gwyddelod ddydd Sul diwethaf.

“Bu’n rhaid i Wasanaethau Ambiwlans Cymru ymdopi â chynnydd mewn anafiadau a gafodd eu hachosi gan anafiadau mewn cartrefi, trais a chwympiadau yn ystod y gêm benwythnos diwethaf,” meddai Dr Jewell.

“Bu’r cynnydd hwn yn gysylltiedig â goryfed, ac roedd hyn yn ychwanegol i’r pwysau gaeafol mae’r gwasanaethau brys yn gorfod ei ddioddef, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o dywydd oer iawn,” meddai.

Dywedodd Dr Jewell e fod yn gobeithio y byddai pobl yn dathlu wrth i Gymru chwarae yn erbyn yr Alban yn Stadiwm y Mileniwm heddiw, ond fe anogodd pawb i yfed yn synhwyrol.

“Peidiwch â gadael i alcohol ddistrywio ysbryd pencampwriaeth y Chwe Gwlad,” meddai.