Y r AS lleol, Paul Flynn, mewn protest gyda gweithwyr y swyddfa basport
Fe ddylai’r Llywodraeth yn Llundain ail feddwl am eu penderfyniad i gau Swyddfa Basports Casnewydd, meddai’r Pwyllgor Dethol Cymreig.

Yn ôl adroddiad y Pwyllgor, doedd y Llywodraeth yn Llundain ddim wedi deall yn iawn beth oedd oblygiadau’r penderfyniad ac roedd hi’n “rhyfeddol” nad oedden nhw wedi asesu effaith economaidd y cau.

Roedd yna amheuon pa mor drylwyr oedd y broses benderfynu, meddai Cadeirydd y Pwyllgor, AS Ceidwadol Mynwy, David Davies. O ganlyniad, roedd amheuon am y rhesymau tros y cau.

Fe gafodd y cyfnod ymgynghori ynglŷn â’r cau ei ymestyn ac, yn ôl y Pwyllgor, roedd hynny ynddo’i hun yn arwydd o ddiffyg strategaeth.

Yn yr haf y cyhoeddodd Llywodraeth Prydain ei bod am gau’r rhan fwya’ o’r swyddfa, sy’n cyflogi 300 o bobol, er eu bod yn mynnu y bydd lefel y gwasanaeth yn cael ei gynnal.

Costio i’r economi

Mae Cyngor Dinas Casnewydd hefyd wedi cyhoeddi adroddiad, yn dangos y bydd economi’r ardal yn costio £11 miliwn y flwyddyn i economi’r ardal.

Mae undeb gweision sifil y PCS hefyd wedi galw am newid y penderfyniad, gan ddweud y bydd y cau’n cael “effaith anferth” ar y ddinas a’r gymuned leol.

“Bydd rhwygo’r ail gyflogwr mwya’ o ganol y ddinas yn cael canlyniadau enfawr i ardal sydd eisoes wedi diodde’n sylweddol.”

Llun: Y r AS lleol, Paul Flynn, mewn protest gyda gweithwyr y swyddfa