Emyr Daniel, y cyflwynydd ifanc (Llun cyhoeddusrwydd y BBC)
Mae teyrnged dwymgalon wedi cael ei dalu i’r darlledwr Emyr Daniel a fu farw yn 63 oed gan berson amlwg arall yn y byd darlledu yng Nghymru.

“Roedd Emyr yn foi galluog iawn, iawn oedd â diddordeb angerddol mewn gwleidyddiaeth,” meddai Tweli Griffiths, Golygydd Cynnwys Ffeithiol S4C, fu’n cydweithio ag Emyr Daniel yn HTV Cymru.

“Ei ddawn fwyaf oedd holi yn y stiwdio ac yn arbennig holi gwleidyddion. Roedd y wybodaeth yr oedd ei angen yn ei ben e ac roedd ganddo’r gallu i ddefnyddio’r wybodaeth honno yn y ffordd fwyaf effeithiol i wneud cyfweliad gafaelgar.

“Mi wnaeth e nifer o gyfweliadau Saesneg pwysig hefyd gan gynnwys cyfweliad cofiadwy gydag Arglwydd Harlech, fu’n llysgennad Prydain yn yr Unol Daleithiau ac a oedd yn ffrind agos iawn i’r Arlywydd Kennedy ar ddechrau’r 60au.

“Mi wnaeth e holi pobl flaenllaw iawn yn y byd gwleidyddol. Dyna oedd yn rhoi’r pleser mwya’ iddo, wy’n credu. Roedd yn ddarlledwr naturiol a chwbl gyffyrddus.

“Ar ddechrau S4C, roedd y Sianel yn ffodus iawn i gael rhywun o’i awdurdod e i fod yn un o brif wynebau ei gwasanaeth materion cyfoes.”