Emyr Daniel, y cyflwynydd ifanc, llun cyhoeddusrwydd BBC Cymru
Bu farw’r darlledwr a’r cynhyrchydd teledu Emyr Daniel yn 63 oed.

Roedd yn gyn-reolwr gyfarwyddwr HTV Cymru a chyn-gadeirydd Bafta Cymru. Bu hefyd yn newyddiadurwr gyda BBC Cymru gan weithio ar y rhaglen Heddiw, a Radio Cymru rhwng 1974 a 1981.

Ar ôl gadael HTV, bu’n gweithio fel cynhyrchydd annibynnol, gan gynhyrchu nifer o raglenni ar gyfer S4C.

Cafodd ei eni ym Maenclochog ac fe dderbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin a Choleg yr Iesu, Rhydychen.

“Roedd doniau darlledu Emyr yn doreithiog,” meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru.

“Daeth â chywirdeb, hiwmor a chynhesrwydd i bob tîm a weithiai â nhw – o’i ddyddiau cynnar fel gohebydd a chyflwynydd gyda BBC Cymru i’w yrfa ddisglair gyda HTV.”

Meddai Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion  a Rhaglenni ITV Cymru, “Roedd Emyr Daniel yn un o ffigyrau amlycaf darlledu Cymru dros gyfnod o bedwar degawd.

“Gwleidyddiaeth a materion cyfoes oedd ei ddiddordeb mawr ac roedd yn gyflwynydd a chynhyrchydd blaengar.

“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau yn ystod y cyfnod trist hwn.”