Bydd y cyllid sy’n cael ei roi i elusen Lleiafrifoedd Ethnig Cymru AWEMA yn dod i ben ar unwaith, yn ôl Llywodraeth Cymru heddiw.

Wrth gyhoeddi adroddiad damniol yn dilyn ymchwiliad y Llywodraeth i AWEMA heddiw, dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt fod tri chytundeb yn deillio o gyllid Ewropeaidd hefyd wedi cael eu hatal.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn dweud eu bod nhw nawr yn ystyried a ddylid gofyn i’r elusen ad-dalu rhai grantiau. Mae’n debyg bod Heddlu’r De yn ystyried cynnal ymchwiliad troseddol yn sgil yr adroddiad.

Dywedodd Jane Hutt heddiw y byddai’r Llywodraeth yn “parhau i gydgysylltu’n agos â Heddlu De Cymru a’r Comisiwn Elusennau” ynglŷn â’r mater. Cadarnhaodd y Gweinidog Cyllid hefyd bod angen cynnal “adolygiad annibynnol llawn a thrylwyr o’r modd y darparwyd cyllid Llywodraeth Cymru i AWEMA.”

Dywedodd Jane Hutt mai Swyddfa Archwilio Cymru fyddai’n cynnal yr adolygiad llawn hwn, a bod prif was sifil y Llywodraeth, yr Ysgrifennydd Parhaol Gillian Morgan, yn trafod cylch gorchwyl yr adolygiad gyda nhw ar hyn o bryd.

‘Diffygion sylweddol’

Dywedodd y Llywodraeth yn eu hadroddiad heddiw fod eu hymchwiliad wedi cael ei effeithio’n fawr gan y ffaith fod diffygion sylweddol yn systemau cofnodi ariannol yr elusen.

Roedd y Llywodraeth wedi tynnu sylw at bedwar agwedd penodol oedd wedi eu rhwystro wrth geisio cynnal eu hymchwiliad.

Roedd rhain yn cynnwys y ffaith nad oedd yna gyfrifon wedi eu harchwilio ar gyfer 2010/11; nad oedd yna unrhyw gyfrifon rheoli; fod gwybodaeth ariannol allweddol ar goll, fel cysoniadau banc a balansau credydwyr; ac anallu’r corff i  ddarparu  unrhyw wybodaeth o’u meddalwedd cyfrifo ariannol.

Dywed yr adroddiad fod y canfyddiadau hyn yn eu harwain i’r casgliad “na ellir rhoi unrhyw sicrwydd bod yna drefniadau priodol i ddiogelu a gwneud defnydd priodol o’r cyllid a roddir i AWEMA gan Lywodraeth Cymru, WEFO a chronfa’r Loteri Fawr.”

Naz Malik

Roedd hefyd cyfeiriad at faterion sydd wedi cael eu cysylltu â Phrif Weithredwr yr elusen, Naz Malik, yn ddiweddar.

Dywed yr adroddiad fod diffyg llwyr yn yr arolygaeth sydd wedi ei roi gan y Prif Weithredwr, sydd hefyd yn Ymddiriedolwr, i reolaeth a phrosesau ariannol o fewn AWEMA.

Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ddiffyg polisiau a gweithdrefnau o fewn AWEMA. Yr enghraifft mae’r adrorddiad yn ei roi o hynny yw nad oedd yna “unrhyw bolisi ar gyfer treuliau staff, na chofnod datgan diddordeb na chofnod o anrhegion/lletygarwch a roddwyd neu a dderbyniwyd.”

Mae Naz Malik eisoes wedi dod dan y lach am ddefnyddio arian yr elusen i dalu dyled ar ei gerdyn credyd, gwerth £9,000. Mae e’n mynnu ei fod wedi defnyddio’r arian fel tâl rhagblaen am dreuliau.

Mae’r elusen hefyd wedi wynebu honiadau o ddiffyg trylowder, wedi i Naz Malik benodi ei ferch i weithio i AWEMA.

Atal dros dro

Mae’n ymddangos bellach fod Llafur Cymru hefyd wedi cymryd camau yn sgil cyhoeddi’r adroddiad damniol  heddiw, gyda chyhoeddiad fod aelodaeth Lafur Prif Weithredwr AWEMA a’i ferch Tegwen wedi cael eu hatal dros dro.

“Rydyn ni heddiw wedi atal Naz a Tegwen Malik dros dro, tra’n aros am gasgliadau ymchwiliad mewnol,” meddai llefarydd ar ran y blaid.