Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth wedi i ddwy ddafad gael eu lladd yn ardal Rhydyfelin o Bontypridd ddydd Mawrth.

Mae’r heddlu wedi arestio dyn 37  oed a bachgen 12 oed ar amheuaeth o fod â gynnau yn eu meddiant ac o achosi difrod troseddol.

Mae’r heddlu’n dweud fod sawl eiddo wedi cael ei archwilio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, a’u bod yn dal i wneud ymholiadau yn yr ardal.

Mae’r heddlu ym Mhontypridd nawr yn apelio am wybodaeth a allai eu helpu i ddod o hyd i wn llaw.

Mae’r gwn wedi ei ddisgrifio fel ‘revolver’ â handlen wen, ac fe welwyd y gwn ddiwethaf yn ardal Rhydyfelin.

Mae’r heddlu’n credu y gallai’r gwn fod wedi ei lwytho â bwledi, ac y gallai fod yn beryglus.

Gwn yn y gymuned

Dywedodd y Ditectif Ymchwilydd Lee Porter heddiw ei fod yn poeni fod y gwn wedi cyrraedd dwylo grŵp o bobol ifanc lleol.

“Gallai’r gwn anghyfreithlon hwn fod yn beryglus os nad yw’n cael ei drosglwyddo i ofal yr heddlu. Rydw i’n apelio am unrhyw wybodaeth a allai arwain at ddod o hyd i’r arf yma,” meddai.

Dywedodd y Ditectif Ymchwilydd fod y digwyddiad yn un “hynod anarferol.”

Ychwanegodd y byddai’n hoffi sicrhau’r cyhoedd “nad ydyn ni’n gorfod delio gyda digwyddiadau yn ymwneud â gynnau yn yr ardal hon fel rheol.”