David Cameron
Mae’r Prif Weinidog wedi ymosod yn chwyrn heddiw ar y ffordd mae’r Blaid Lafur yn rheoli’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Yn ystod sesiwn holi yn Nhy’r Cyffredin prynhawn ma dywedodd David Cameron bod pobl yng Nghymru yn aros yn hirach am lawdriniaethau ac fe gyhuddodd gweinidogion ym Mae Caerdydd o dorri cyllid iechyd.

Roedd David Cameron yn ymateb i feirniadaeth i’w gynlluniau i ddiwygio’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr – mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y cynlluniau yn “llanast llwyr”.

Fe ddechreuodd y ffrae rhwng y ddwy Lywodraeth ar ôl i AS Llafur De Caerdydd a Phenarth Alun Michael alw ar Lywodraeth San Steffan i roi’r gorau i’w chynlluniau dadleuol i ddiwygio’r GIG.

Fe fyddai’r cynlluniau’n golygu bod y sector preifat yn chwarae rhan mwy amlwg o fewn y GIG – cam sydd wedi cael ei feirniadu’n llym gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.

Fe ymatebodd David Cameron i gais Alun Michael AS drwy ddweud mai’r hyn y dylid “rhoi’r gorau iddi yw agwedd Llafur tuag at y GIG yng Nghymru.”

Aeth ati i gyhuddo Llywodraeth Cymru o dorri £400 miliwn o’r cyllid iechyd – toriad o 6.5% – gan ddweud bod 27% o bobl yng Nghymru yn aros mwy na chwech wythnos am wasanaethau diagnostig o’i gymharu â 1% yn Lloegr.

“Dyna be rydach chi’n ei gael gyda Llafur: dim arian, dim diwygio, dim gwasanaethau iechyd da,” meddai David Cameron.

‘Ffeithiau’n anghywir’

Ond dywedodd llefarydd ar ran Gweinidog Iechyd Cymru Lesley Griffiths bod y Prif Weinidog yn amlwg wedi cael ei ffeithiau’n anghywir.

“Mae’n amlwg ei fod wedi cael ei gynhyrfu gan y feirniadaeth o’i gynlluniau i ddiwygio’r GIG yn Lloegr – cynlluniau sydd yn llanast llwyr.

“Gyda meddygon, y BMA, nyrsys, bydwragedd, undebau llafur a hyd yn oed rhai o fewn ei blaid ei hun yn beirniadu ei gynlluniau, mae’n rhaid gofyn y cwestiwn, ydy’r enw ‘Custer’ yn golygu unrhywbeth i’r Prif Weinidog?”

Dywedodd y llefarydd hefyd bod ffeithiau’r Prif Weinidog yn anghywir – roedd wedi dweud bod traean o gleifion yng Nghymru yn aros mwy na 18 wythnos am driniaeth tra bod y ffigwr mewn gwirionedd yn llai na hynny.

Yn dilyn yr etholiad ym mis Mai y llynedd, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y  byddai’n gwario £6 biliwn y flwyddyn ar y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol. Ond tra bod y swm yn uwch na’r blynyddoedd blaenorol dywed y gwrthbleidiau ei fod yn doriad mewn gwirionedd gan nad yw’n cymryd i ystyriaeth y cynnydd mewn chwyddiant.