Elin Jones
Mae un o Aelodau Cynulliad mwyaf blaenllaw Plaid Cymru wedi datgan ei gefnogaeth i ymgyrch Elin Jones ar gyfer yr arweinyddiaeth heddiw.

Alun Ffred Jones, y cyn-Weinidog Treftadaeth, yw’r aelod diweddaraf i ddatgan ei gefnogaeth i Elin Jones yn y gystadleuaeth am bwy fydd yn cymryd yr awenau oddi wrth Ieuan Wyn Jones ganol mis Mawrth.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Arfon fod Elin Jones wedi “profi ei hun fel gwleidydd effeithiol,” a’i fod yn falch o’i chefnogi.

“Mae hi wedi ymladd pedwar etholiad yn llwyddiannus yng Ngheredigion, ac wedi bod yn Weinidog uchel ei pharch yn Llywodraeth Cymru’n Un.”

Roedd Elin Jones yn Weinidog Amaeth yn y Llywodraeth glymblaid ddiwethaf, lle’r oedd Alun Ffred Jones yn Weinidog Treftadaeth.

“Dwi’n credu yn gryf mai gan Elin y mae’r bersonoliaeth a’r profiad i uno’r Blaid, ei gwneud yn blaid effeithiol a chreu Cymru hyderus, gynaliadwy a ffyniannus,” meddai.

Camu o’r cysgodion

Roedd ymgyrch Elin Jones wedi cael ei wthio i’r cysgodion rhyw fymryn yr wythnos diwethaf, gyda’r cyhoeddiad fod Dafydd Iwan, brawd Alun Ffred Jones, wedi rhoi ei gefnogaeth i’r ddynes arall yn y ras – yr Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru Leanne Wood.

Ond mae’n ymddangos mai “momentwm” yw gair mawr Elin Jones yn ystod y dyddiau diwethaf, wedi’r cyhoeddiad annisgwyl ddydd Llun bod Simon Thomas yn camu o’r ras, ac i rengoedd Elin Jones, a’r newyddion heddiw fod Alun Ffred hefyd wedi rhoi ei gefnogaeth iddi.

“Dwi’n falch fod Simon Thomas yn rhan o’r tîm arweinyddol gan ei fod yn un o’r meddylwyr gorau sydd gan y Blaid,” meddai Alun Ffred Jones.

Dafydd Elis Thomas, Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd, yw’r unig ddyn sy’n dal yn y ras bellach, ond hyd yn hyn mae’n ymddangos fod y ddwy ddynes yn carlamu ar y blaen iddo.