Gwesty River Lodge, Llangollen
Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi gwrthddweud Llywodraeth Cymru tros ymchwiliad i brosiect cymunedol dadleuol.

Mae datganiad ganddyn nhw i Golwg 360 fel petai’n cadarnhau honiad gan arweinydd y prosiect mai’r Swyddfa Archwilio, nid prif was sifil y Llywodraeth, oedd wedi mynnu cynnal ymchwiliad llawn i’r mater.

Ddoe, roedd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi hawlio fod yr Ysgrifennydd Parhaol, Gillian Morgan, wedi gofyn am ymchwiliad i bob agwedd ar y prosiect yn Llangollen; ond mae datganiad y Swyddfa’n dweud yn wahanol.

Maen nhw’n datgan bod Gillian Morgan wedi gofyn am ymchwiliad i ran o’r broses o drin y prosiect ond fod y swyddfa wedi dweud bod rhaid cael ymchwiliad i ragor na hynny.

Y gwrth-ddweud

Fe gododd y gwrth-ddweud ar ôl i arweinydd prosiect Powys Fadog, Pol Wong, honni bod yr Ysgrifennydd Parhaol wedi ymyrryd i atal y cynllun i droi hen westy’n ganolfan ddiwylliannol gyda tua 30 o swyddi.

Mae hefyd yn honni bod Gillian Morgan wedi galw am ymchwiliad cyfyngedig er mwyn tawelu’r galw am ymchwiliad llawn.

Yn ôl y Swyddfa Archwilio, roedd yr Ysgrifennydd Parhaol wedi gofyn am ymchwiliad i benderfyniad gwreiddiol y Llywodraeth i roi arian at brynu’r gwesty am £1.6 miliwn yn 2007.

Ond roedd y Swyddfa wedi mynnu bod rhaid i’r ymchwiliad hefyd edrych ar y ffordd y cafodd y cynllun ei drin hyd at ei atal yn sydyn yn 2010 pan oedd trefnwyr y prosiect yn gobeithio am £249,000 arall trwy law’r Llywodraeth er mwyn rhoi’r cynllun ar waith.

Yn ôl y llefarydd ar ran y Llywodraeth, “nonsens” yw honiadau Pol Wong.

Y ddau ddatganiad

Dyma’r datganiad a ddaeth ddoe gan Lywodraeth Cymru, yn ymateb i honiadau Pol Wong. Mae wedi ei gyfieithu.

“Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, ‘Mae hyn yn nonsens – roedd yr Ysgrifennydd Parhaol (ei hun) wedi gwahodd Swyddfa Archwilio Cymru i ymchwilio i HOLL agweddau’r prosiect hwn’.”

Dyma’r datganiad a ddaeth ychydig wedyn gan y Swyddfa Archwilio (eto wedi ei gyfieithu): “Gofynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol i Archwilydd Cyffredinol Cymru edrych ar addasrwydd ei phenderfyniad nad oedd y cytundeb gwreiddiol ar gyfer Gwesty River Lodge, Llangollen, ddim yn cwrdd â safonau derbyniol o ran priodoldeb. Cytunodd yr Archwilydd Cyffredinol i gynnal yr ymchwiliad (examination), ond dywedodd y dylai hefyd edrych ar ystyriaethau a phenderfyniadau dilynol ynglŷn ag opsiynau eraill ar gyfer yr eiddo. Mae’r ymchwiliad felly’n ceisio ateb y cwestiwn: A oedd penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â phrynu River Lodge, Llangollen, a’i ddefnydd wedi hynny yn rhoi gwerth am arian.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i’r naill a’r llall egluro’r gwahaniaeth ymddangosiadol rhwng eu safbwyntiau.

Dyma oedd ymateb y Swyddfa Archwiliadau i’r cais heddiw (wedi ei gyfieithu):

“Gofynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol i’r Archwilydd Cyffredinol i ymchwilio (examine) i’r prosiect. Mae’n amherthnasol i raddau helaeth a oedd hynny o safbwynt dim ond un penderfyniad neu bob penderfyniad, oherwydd y pwynt pwysig yw mai’r Archwilydd Cyffredinol benderfynodd ar gwmpas y prosiect ac y dylid ymchwilio (examine) i bob un o’r penderfyniadau allweddol sydd wedi cael eu gwneud o safbwynt yr eiddo.”

Wrth ymateb i gais Golwg 360 am eglurhad y prynhawn yma, anfonodd Llywodraeth Cymru y datganiad hwn (wedi ei gyfieithu):

“Fel y gwnaethon ni’n glir ddoe, roedd yr Ysgrifennydd Parhaol wedi gwahodd Swyddfa Archwilio Cymru i ymchwilio i bob agwedd o’r prosiect.”

Y cefndir

Ym mis Ionawr 2010, fe benderfynodd Llywodraeth Cymru dynnu’r plwg ar brosiect Powys Fadog a oedd ar y gweill ers pum mlynedd cyn hynny.

Yn ôl Pol Wong roedd y penderfyniad hwnnw wedi dod ychydig ddyddiau cyn yr oedd y gwaith i fod i ddechrau.

Mae Pol Wong, sydd hefyd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn cynlluniau codi tai yng ngogledd Cymru, yn mynnu nad oes unrhyw reswm da wedi cael ei roi gan y Llywodraeth dros atal y cynllun.

Mae’n dweud mai ymgais i dawelu’r cwestiynau am hynny oedd yr ymchwiliad cyfyngedig y gofynnodd yr Ysgrifennydd Parhaol amdano.