Mae newidiadau arfaethedig i wasanaethau bysys yng Ngheredigion yn “ffiasgo” yn ôl aelodau o’r Blaid Werdd yng Ngheredigion.

Mae’r blaid yn dweud bod y newidiadau yn peri gofid mawr i deithwyr rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.

Mae Marilyn Elson o Gei Newydd yn gynghorydd yn y dref i’r Blaid Werdd. Dywedodd: “Rydyn ni wedi gwybod am rai misoedd nawr fod y bys T1 yn mynd i gymryd lle’r X40, sy’n dilyn y brif hewl rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, gan adael allan pentrefi fel Cribyn.”

Yn sgil y newidiadau, bydd Cribyn yn colli’r gwasanaeth bws, dywedodd Marilyn Elson.

Ac, yn ôl yr amserlen newydd, ni fydd teithwyr  sy’n dibynnu ar fws i Aberystwyth yn cyrraedd tan 9.15am  yn  ystod yr wythnos, ac 11.15am ar ddydd Sadwrn.

Dywedodd aelod o’r Blaid Werdd Timothy Foster bod hyn yn “dda i ddim os oes gynnoch chi swydd yn Aberystwyth neu’n gorofd bod yn y Coleg neu’r Brifysgol erbyn 9am.”

Arriva

Roedd gwasanaeth bws crwydrol Ceredigion, y Bwcabus, i fod yn opsiwn  arall i deithwyr yn yr ardal.

“Fodd bynnag mae’r cynllun yma, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi cael ei ddifetha gan gwmni Arriva, sydd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n troi’r gwasanaeth yn un fasnachol o Chwefror 26 ymlaen.”

Protest myfyrwyr

Dywedodd Timothy Foster fod myfyriwr yng Ngholeg Ceredigion wedi dechrau tudalen Facebook yn protestio am y newidiadau, a’r diffyg gwybodaeth.

Dywedodd fod 75 aelod wedi ymuno gyda’r grŵp Faceboook mewn dau ddiwrnod.

Mynnodd Timothy Foster hefyd fod angen i Ray Quant, aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth ar Gyngor Sir Ceredigion, ateb cwestiynau ar y pwnc yma.