Y tren pwysau yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen
Mae Golwg360 yn deall y bydd cyfarfod brys o staff Canolfan y Dechnoleg Amgen ger Machynlleth heddiw.

Er eu bod nhw’n pryderu am golli swyddi, maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd newyddion am gynllun i achub a datblygu’r Ganolfan sydd wedi bod mewn trafferthion ariannol.

Mae pryderon wedi bod am fygythiad i swyddi a chyflogau yn y ganolfan ym Mhantperthog, sy’n datblygu dulliau gwyrdd o fyw ac yn cynnig cyrsiau a graddau yn y maes.

Heddiw, roedd Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Ganolfan, Iolo ap Gwynn, yn cadarnhau bod cyfarfod i holl staff y Ganolfan y prynhawn yma ac y byddai datganiad yn cael ei wneud “yn y dyddiau nesa’”.

Doedd e ddim yn gallu dweud mwy na hynny, ar hyn o bryd, meddai.

Partneriaeth?

Un posibilrwydd sydd wedi cael ei grybwyll yw partneriaeth gyda phrifysgol ac roedd cynrychiolwyr o’r Ganolfan ac o rai o brifysgolion Cymru wedi cael eu gweld yr wythnos ddiwetha’ yn adeilad y Cynulliad yn Aberystwyth.

Mae’r Ganolfan yn cael ei hystyried yn hanfodol i ddyfodol yr economi yn ardal Machynlleth gyda mwy na 100 o swyddi llawn amser a rhan amser yno.