Kirsty Williams
Cafodd Llywodraeth Cymru eu rhybuddio na ddylid rhoi rhagor o arian tuag at elusen Lleiafrifoedd Ethnig Cymru yn ôl yn 2005, yn ôl yr adroddiad sydd wedi dod i’r amlwg heddiw.

Mae’r Dems Rhydd, sydd wedi cael gafael ar adroddiad a gomisiynwyd i weithgareddau AWEMA ers 2003, yn dweud fod honiadau o anghysondebau ariannol wedi dod i glawr mor gynnar a 2005.

Mae argymhellion yr adroddiad hwnnw, yn dilyn yr ymchwiliad yn 2003, yn datgan na ddylai “unrhyw arian pellach gael ei roi tuag at brosiectau AWEMA nes eu bod nhw’n gallu cadarnhau eu bod wedi cymryd agwedd systematig tuag at berfformiad a rheolaeth.”

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi mai’r prif adrannau oedd angen eu gwella oedd “rheolaeth prosiectau, monitro perfformiad, a rheolaeth ariannol.”

Yn 2003, roedd AWEMA wedi derbyn £325, 000 o arian y trethdalwyr ar gyfer cymunedau lleiafrifoedd ethnig Cymru. Erbyn hyn, mae’r gymdeithas wedi cael cyfrifoldeb dros gwerth £8.5 miliwn o brosiectau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi atal £3 miliwn arall rhag mynd i goffrau’r elusen ers dechrau’r flwyddyn, tra bod yr ymchwiliad diweddaraf i anghysondebau arainnol, nepotistiaeth a llygredd yn cael ei gynnal.

‘Dim byd i’w guddio’

Yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw, dywedodd Carwyn Jones nad oedd ganddo “ddim i’w guddio” ynglyn â’r arian sydd wedi mynd i goffrau AWEMA.

Er hynny, mae arweinydd y Dems Rhydd, Kirsty Williams, wedi ymosod ar y geiriau hynny heddiw, gan ddweud fod “Llywodraeth Lafur Cymru yn gwybod bod problemau gydag AWEMA, a’i reolaeth cyllido ac ariannu, yn ôl yn 2005.

“Cafodd Llywodraeth Lafur Cymru eu cynghori gan banel adolygu annibynnol i beidio ag ariannu’r sefydliad yma ymhellach,” meddai Kirsty Williams.

“Pam na wnaethon nhw wrando ar y cyngor hyn?

“Mae AWEMA wedi bod yn derbyn miliynau o bunnoedd gan y trethdalwr ers i’r adroddiad hwn gael ei gyflwyno i Lywodraeth Lafur Cymru. Mewn adeg mor anodd yn ariannol, mae’r cyhoedd yn disgwyl i Lywodraeth Cymru  sicrhau bod eu trethi yn cael eu defnyddio’n synhwyrol. Dydi hyn ddim yn ddigon da.”

Cydweithio rhy agos?

Mae Kirsty Williams hefyd wedi beirniadu’r Llywodraeth o fethu â sicrhau y tryloywder priodol yn eu hymchwiliad nhw i’r sefydliad.

“Dwi wedi  synnu’n fawr gan ffolindeb Llywodraeth Lafur Cymru wrth beidio â sicrhau’r craffu a thryloywder trylwyr wrth delio ag AWEMA, o ystyried fod Llafur yn ymwneud gymaint â’r elusen.

“Mae cyhuddiadau wedi cael eu gwneud yn erbyn Llywodraeth Lafur Cymru yn dweud eu bod yn ceisio ‘amddiffyn un o griw eu hunain’, ac mae gen i ofn fod datgelu’r adroddiad hwn yn gwneud dim i dawelu’r honiadau hynny.”