Mae Llywodraeth Cymru wedi gwadu’n llwyr honiad fod ei phrif was sifil wedi ceisio cyfyngu ar ymchwiliad i brosiect datblygu dadleuol.

Maen nhw’n dweud mai “nonsens llwyr” yw awgrym fod yr Ysgrifennydd Parhaol, Gillian Morgan, wedi ceisio cael ymchwiliad cyfyng er mwyn rhwystro ymchwiliad llawn gan Swyddfa Archwilio Cymru.

“Yr Ysgrifennydd Parhaol ei hun a wahoddodd Swyddfa Archwilio Cymru i ymchwilio i bob agwedd o’r prosiect hwn,” meddai’r Llywodraeth mewn datganiad.

Mae’r Swyddfa wedi cadarnhau eu bod yn ystyried yr holl broses o gefnogi prosiect ‘Powys Fadog’ yn Llangollen ac wedyn y penderfyniad i atal rhoi arian iddo.

Dywedodd un o arweinwyr y prosiect i droi hen westy’n ganolfan ddiwylliannol bod aelod o’r Swyddfa Archwilio wedi cadarnhau wrtho eu bod yn edrych ar ran Gillian Morgan, yn y ffordd y daethpwyd â’r prosiect i ben yn ddisymwth yn 2010.

Ond mae’r Swyddfa ei hun wedi gwadu wrth Golwg360 eu bod yn edrych ar ran “unrhyw unigolyn penodol o fewn Llywodraeth Cymru”.

Mae’r Swyddfa Ymchwiliadau hefyd wedi dweud bod cymhlethdod yr archwiliad yn golygu y bydd yn rhaid gohirio cyhoeddi casgliadau’r ymchwiliad am rai misoedd.

Galw am ymchwiliad

Dechreuwyd yr ymchwiliad yn ôl ym mis Tachwedd 2011, yn sgil cais gan yr Ysgrifennydd Parhaol ei hun.

Dadl Pol Wong, sydd wedi bod yn arwain y prosiect cymunedol di-elw ers 2005, yw mai gofyn am ymchwiliad cyfyngedig a wnaeth hi – i’r penderfyniad cychwynnol i gefnogi prynu’r gwesty, yn hytrach nag edrych ar ei rhan hi wrth roi stop ar y prosiect.

Mae’n dweud mai’r Swyddfa Archwilio oedd wedi penderfynu ymestyn yr ymchwiliad i ystyried popeth a ddigwyddodd rhwng 2005 a 2011.

Yr honiad yna sy’n cael ei wadu gan y Llywodraeth.

Y Cefndir

Gwnaed y penderfyniad i atal cyllideb y prosiect gan Lywodraeth Cymru ddyddiau cyn i’r gwaith ddechrau ar y prosiect – a thair blynedd wedi i Lywodraeth Cymru wario £1.6 miliwn ar brynu hen westy’r River Lodge ar gyfer y prosiect.

Yn ôl Pol Wong, roedd y prosiect yn dibynnu ar dderbyn £249,000 oddi wrth Llywodraeth Cymru er mwyn bwrw ymlaen â’r cynlluniau – sef traean o’r holl gost. Fe fyddai wedi denu twristiaid, meddai, a chreu 30 o swyddi.

Mae arweinwyr a chefnogwyr y prosiect yn cyhuddo’r Ysgrifennydd Parhaol o ymyrryd yn y prosiect ar y funud olaf, ac atal y cyllid.

Yn ôl Pol Wong roedd swyddogion blaenllaw wedi rhoi eu cymeradwyaeth i’r prosiect ar hyd y broses, nes y cafodd yr arian ei atal gan yr Ysgrifennydd Parhaol.

Croesawu’r ymchwiliad

Mae’r Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru, Llyr Huws Gruffydd wedi croesawu’r ymchwiliad, gan fod “nifer o gwestiynau heb eu hateb, a nifer o bryderon yn dal heb eu datrys ynglŷn â’r modd y cafodd y prosiect cymunedol hwn ei drafod”.

Mae Pol Wong hefyd yn dweud bod yr ymchwiliad yn un hir-ddisgwyliedig, a’i fod yn gobeithio y caiff glywed cyfiawnhad y Llywodraeth dros ddod â’r cynllun i ben am y tro cyntaf.

Mae Pol Wong yn dweud nad oes unrhyw esboniad wedi ei roi dros ddod â’r prosiect i ben hyd yn hyn.

“Mae’r Llwyodraeth wedi gwrthod yn gyson i drafod eu penderfyniad, ac maen nhw wedi gwrthod dau alwad am gynnal ymchwiliad cyhoeddus,” meddai.