Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n recriwtio 27 aelod newydd o staff i’r brifysgol yn ystod y misoedd nesaf.

Yn ôl y brifysgol, bydd y swyddi academaidd newydd yma yn cael eu creu ar gyfer pobol ar lefel Darlithydd, Uwch-Ddarlithydd, Darllenydd ac Athro.

Mae disgwyl i’r swyddi, sydd i’w hysbysebu’n swyddogol ddydd Iau, gyfrannu at yr adrannau Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Cyfrifiadureg, Hanes a Hanes Cymru, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Seicoleg, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, a’r Gyfraith a Throseddeg.

‘Uchelgeisiol’

Yn ôl Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon, sydd wedi cynnal adolygiadau mawr ar weithgareddau’r brifysgol ers iddi ddechrau ei swydd yn yr haf y llynedd, mae’r ymgyrch recriwtio staff diweddaraf gyda’r “mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd gan y brifysgol erioed.”

Mae Prifysgol Aberystwyth yn dathlu ei phenblwydd yn 140 oed eleni, ond yn ôl yr Is-Ganghellor newydd, amser i edrych ymlaen yw’r cyfnod hwn.

“Ein blaenoriaethau yw ehangu a hyrwyddo ein henw da rhyngwladol ar sail ymchwil blaengar amlddisgyblaethol mewn ystod eang o feysydd academaidd, ynghyd â darparu cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon byd,” meddai’r Athro April McMahon.

Dywedodd hefyd y byddai’r “27 swydd academiadd yma yn wahoddiad i ymuno â phrifysgol o safon byd, ac ein cynorthwyo ni wrth i ni lunio ein dyfodol.”

Bydd y swyddi newydd hyn yn cael eu hysbysebu’n swyddogol o ddydd Iau, 9 Chwefror, ymlaen.