Llun: Canolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth
Mae na bryder am ddiswyddiadau posib  yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth ar ol i’r ganolfan gadarnhau ei bod yn ail-strwythuro o ganlyniad i’r sefyllfa economiadd bregus.

Mae’n bosib y bydd yna ddiswyddiadau fel rhan o’r broses ail-strwythuro er nad ydy’r ganolfan wedi cadarnhau hynny.

Datganiad y Ganolfan

Mewn datganiad dywedodd y Ganolfan: “Mae Canolfan  y Dechnoleg Amgen, fel nifer o elusennau, yn cael ei heffeithio gan y dirwasgiad byd-eang.

“Rydym ni ar hyn o bryd yn ystyried ailstrwythuro rhannau o’r mudiad, er mwyn addasu i’r hinsawdd ariannol newidiol.

“Byddwn yn parhau i ddarparu ein cyrsiau addysgiadol bendigedig, ac i hysbysu ac ysbrydoli prosiectau cynaliadwy, megis Prydain Heb Garbon 2030.”

Roedd Elfyn Jones, prif weithredwr y Ganolfan, ddim ar gael i siarad gyda Golwg 360.

Cefndir

Cafodd y Ganolfan ei sefydlu ar hen chwarel Llwyngwern, ger Machynlleth, gan Gerald Morgan-Grenville yn 1973.

Mae safle we’r Ganolfan yn disgrifio’r safle fel “canolfan eco fwyaf Ewrop.”

Erbyn heddiw, mae’r ganolfan yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd yn ogystal a darparu hyfforddiant ac addysg.