Mae gwelliannau i wasanaethau arlwyo mewn ysbytai yng Nghymru wedi cael eu beirniadu gan bwyllgor y Cynulliad.

Yn ôl  Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru mae’r gwasanaethau arlwyo mewn ysbytai yn anghyson ac nid yw’r sefyllfa’n gwella’n ddigon cyflym.

Mewn rhai achosion, clywodd y pwyllgor am berthnasau a gofalwyr nad oedd yn cael helpu cleifion bregus  amser bwyd o ganlyniad i “bolisi amser bwyd”, gafodd ei lunio’n wreiddiol i sicrhau bod cleifion yn cael digon o amser i fwyta heb ymyrraeth.

Clywodd y Pwyllgor bod maeth yn elfen hanfodol o ofal i gleifion, a phan fod y polisi’n cael ei gyflwyno’n iawn, wedi arwain at welliannau yn y modd roedd cleifion yn gwella.

Ond dywedwyd wrth aelodau bod gweithredu’r polisi yn anghyson mewn ysbytai ledled Cymru a’r broses o’i gyfathrebu i staff rheng flaen yn cymryd gormod o amser.

‘Brawychus’

“Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at dystiolaeth frawychus o bolisi a luniwyd i wella’r gofal i gleifion yn cael yr effaith i’r gwrthwyneb oherwydd cyfathrebu a dehongli gwael,” dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

“Lle bo’r polisi yn cael ei weithredu’n gywir, roedd y Pwyllgor yn falch o weld canlyniadau cadarnhaol ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau pellach i sicrhau bod safonau uchel o wasanaeth yn gyson ymhob un o ysbytai Cymru.

“Rydym hefyd yn argymell y dylai pob claf gael gwybod beth yw safon yr arlwyo y gellir ei ddisgwyl wrth gyrraedd yr ysbyty ac y dylai sgoriau hylendid bwyd gael eu harddangos yn amlwg ymhob ysbyty.”

Argymhellion:

Mae’r Pwyllgor yn gwneud saith o argymhellion yn ei adroddiad:

1.   Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau atodol i bob corff yn y GIG yng Nghymru gan ddatgan yn glir na ddylid defnyddio’r polisi amser bwyd i atal perthnasau a gofalwyr rhag helpu cleifion i fwyta, a lle bod perthnasau a gofalwyr yn dymuno rhoi cymorth gyda phrydau bwyd, eu bod yn cael eu hannog yn frwd i wneud hynny gan staff ar y ward;

2.  Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn dosbarthu nodyn   cyfarwyddyd Swyddfa Archwilio Cymru ‘Bwyta’n Dda yn yr Ysbyty’ wrth i bob claf yng Nghymru gael eu derbyn i’r ysbyty;

3.  Bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i sicrhau bod cynnydd cyrff y GIG wrth gyflwyno’u cynlluniau gweithredu eu hunain yn cael ei arolygu’n drwyadl ac ar gael i’r cyhoedd.

4.  Bod Llywodraeth Cymru yn arolygu cynnydd cyrff y GIG wrth gyflwyno’u canllawiau, gan gynnwys dod o hyd i fwyd lleol sy’n cyfrannu at ddeiet cytbwys-iach i gleifion, lle bo’n bosibl;

5.  Bod Llywodraeth Cymru’n darparu manylion ynglŷn â sut a phryd y bydd yn cyrraedd targedau gostwng gwastraff;

6. Bod Llywodraeth Cymru’n gweithredu i sicrhau y caiff sgoriau hylendid bwyd eu harddangos yn gyhoeddus yn holl ysbytai Cymru;

7.  Gofynnodd y Pwyllgor hefyd i’r Swyddog Cyfrifo ddarparu cynllun iddynt o sut a phryd y bydd Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd Lleol wedi cwblhau’r gwelliannau a argymhellwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol.