Elfyn Llwyd
Mae grŵp o Aelodau Seneddol ac arglwyddi o bob plaid wedi galw am ddeddf newydd i ddelio efo achosion o stelcian.

Ond mae’r Ymchwiliad Seneddol Annibynnol wedi rhybuddio na fydd deddf newydd yn unig yn ddigon i ddiogelu dioddefwyr ac mae nhw’n galw am ddiwygio’r system.

Dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad,  Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd Elfyn Llwyd  bod stelcian yn drosedd sydd yn chwalu bywydau – ond bod dioddefwyr yn amharod i fynd at yr heddlu am eu bod nhw’n poeni na fyddan nhw’n cael eu cymryd o ddifrif.

Nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol, meddai Elfyn Llwyd,  yn gwneud digon i ddiogelu dioddefwyr a dylai stelcian fod yn drosedd benodol mewn deddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr.

Dedfrydau

Clywodd yr ymchwiliad mai ychydig iawn o hyder sydd gan ddioddefwyr stelcian yn y system gyda’r mwyafrif yn dweud bod yr heddlu, yr erlyniad a’r system gyfreithiol wedi eu gadael i lawr.

Mae na bryder hefyd nad yw’r dedfrydau yn ddigon llym ac mae’r adroddiad yn argymell cynyddu’r mwyafswm dedfryd o chwe mis i bum mlynedd.

Dim ond 20 o stelcwyr mewn blwyddyn sy’n cael dedfryd am fwy na 12 mis tra bod eraill dan glo am ddyddiau’n unig.

Clywodd yr ymchwiliad bod hyd at 120,000 o ddioddefwyr, y rhan fwyaf yn ferched, yn cael eu stelcio bob blwyddyn ond dim ond 53,000 sy’n cael eu cofnodi gan yr heddlu, a dim ond un o bob 50 sy’n arwain at garcharu’r troseddwr.

Bu’r  pwyllgor yn casglu tystiolaeth gan ddioddefwyr, yr heddlu a sefydliadau amrywiol am gyfnod o chwe mis. Mae’r adroddiad, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn cyflwyno  30 o argymhellion i gyd.

‘Rhoi llais i ddioddefwyr’

Dywedodd Elfyn Llwyd: “Mae’r ymchwiliad seneddol annibynol, y cyntaf o’i fath, wedi cynnig argymhellion cadarn ac ymarferol fydd yn rhoi llais i ddioddefwyr stelcian, a rhoi cefnogaeth i’r unigolion dewr hyn wrth galon deddfwriaeth y dyfodol.

“Rydym yn argymell y dylid enwi stelcian yn drosedd benodol mewn deddfwriaeth yn Lloegr a Chymru, er mwyn adnabod hynodweddau’r drosedd ddifrodus hon a sicrhau fod pob gweithiwr proffesiynol cyfiawnder droseddol yn derbyn hyfforddiant benodol er mwyn adnabod yr ymddygiad a dysgu sut i ddelio ag o.

“Yn ychwanegol, dylid cyflwyno rhaglenni triniaeth ar gyfer cyflawnwyr stelcian ledled cymunedau a charchardai fel y gallwn daclo’r problemau seicolegol sydd wrth graidd yr ymddygiad obsesiynol a pheryglus hyn.

“Rwy’n annog y llywodraeth i roi ein hargymhellion ar waith i sicrhau na fydd dioddefwyr y drosedd hon yn dioddef yn ddi-angen o hyn allan.”