Elin Jones
Mae Elin Jones wedi cyhoeddi heddiw y bydd Simon Thomas yn sefyll fel ei dirprwy-arweinydd, mewn ymgyrch ar y cyd ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Dywedodd Elin Jones AC ei bod yn croesawu penderfyniad Simon Thomas i roi’r gorau i’w ymgais am ras arweinyddaeth Plaid heddiw, ac yn falch o’i groesawu i’w rhengoedd.

Mewn cyhoeddiad yn y Senedd heddiw, dywedodd Elin Jones fod sicrhau cefnogaeth Simon Thomas yn ei rhoi yn y sefyllfa orau i arwain “tîm o wleidyddion deinamig, ifanc ar gyfer Plaid Cymru.”

‘Gweledigaeth unol’

Dywedodd Elin Jones y prynhawn yma y byddai’r dair wythnos nesaf o hystings ar draws Cymru yn gyfle i rannu ei “gweledigaeth unol” hi a Simon Thomas, “i weld y blaid yma yn blaid lwyddiannus, fodern, sydd yn perthyn i’r 21ain ganrif.”

Dywedodd hefyd fod y bartneriaeth yn mynd i gynnig “her i’r blaid Lafur fel dewis amgen i bobol Cymru.”

Y geiriau allweddol yng ngweledigaeth Elin Jones ar gyfer Cymru heddiw oedd i greu gwlad “annibynol, llwyddiannus a chynaliadwy.”

‘Creu momentwm’

Yn ôl Elin Jones, bydd y cydweithio newydd gyda Simon Thomas yn rhoi “dewis cadarn i Blaid Cymru.”

“Bydd yn rhoi yr arweiniad yna i Blaid Cymru, yr y’n ni’n credu fod y blaid ei eisiau, a’r momentwm yna i Blaid Cymru ar gyfer dyfodol y genedl.”

Mae’r ddau yn hen gyfarwydd â chyd-weithio ers cyfnod Simon Thomas yn Aelod Seneddol dros Geredigion o 2000-05, tra bod Elin Jones yn Aelod Cynulliad dros yr etholaeth.

Dywedodd Elin Jones heddiw mai ffrwyth cyd-weld â chyd-weithio tebyg oedd y cyhoeddiad heddiw fod Simon Thomas i ymuno â hi yn ei hymgyrch am ras arweinyddiaeth Plaid.

“Nid mater o dimau yn siarad gyda thimau oedd hyn,” mynnodd, “ond mater o ddau unigolyn – o ddau wleidydd – yn  cyd-weld â’n gilydd dros y dyddiau diwethaf.”

‘Claddu’r fwyell’

Dywedodd Simon Thomas heddiw fod y cydweithio newydd yn dystiolaeth o ddau wleidydd profiadol yn penderfynu “claddu’r fwyell” er mwyn rhoi “opsiwn go iawn i bobol.”

Cyfaddefodd ei fod wedi bod yn “cystadlu am yr un tir ag Elin” yn ystod y ras, a’i bod hi “wedi cael y blaen arna i o safbwynt adeiladu tîm a chefnogaeth.”

Dywedodd fod yn “rhaid i fi dderbyn hynny, ac mae’n rhaid i ni benderfynu beth sydd orau i’r blaid.”

Wrth drafod y ras sy’n wynebu’r tri ymgeisydd sydd ar ôl erbyn hyn, sef Elin Jones, Leanne Wood a Dafydd Elis-Thomas, dywedodd y cyn-ymgeisydd fod yn rhaid i bobol gloddio drwy’r cyffro er mwyn gweld pwy fyddai’n gallu creu canlyniadau i Gymru.

“Mae yna math o wleidyddiaeth ym Mhlaid Cymru – dwi ddim yn dweud fod yr ymgeiswyr yn euog o hynny. Ond mae ’na math o wleidyddiaeth sydd mewn perygl o arwain rhai aelodau i deimlo y gallwn ni ennill etholiadau drwy gyffro’n unig.”

Bydd trwynau ambell un yn yr ymgyrch am arweinyddiaeth Plaid yn siwr o fod yn cosi’r prynhawn ’ma o glywed y fath rybudd.

Ond hyd yn hyn, mae’r ddwy ffefryn yn aros yr un fath – gydag Elin Jones a Leanne Wood ar y blaen, a Dafydd Elis-Thomas  y tu ôl i’r ddwy.

Bydd hystings ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru yn cael eu cynnal ar draws Cymru yn ystod y tair wythnos nesaf, cyn ei bod hi’n bryd i aelodau’r blaid fwrw’u pleidlais, erbyn cyhoeddi enw’r arweinydd newydd ar 16 Mawrth.