Stadiwm y Mileniwm
Mae dros 1,000 o gefnogwyr rygbi yn debyg o golli cyfle i wylio’r gêm fawr rhwng Cymru a Lloegr nos Wener ar ôl prynu pecynnau lletygarwch answyddogol.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dod i wybod am nifer o ddigwyddiadau lletygarwch answyddogol sy’n digwydd yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

Roedd Undeb Rygbi Cymru wedi penodi Events International fel y gweithredwyr lletygarwch swyddogol ac fe fydd cefnogwyr sydd wedi prynu pecynnau ganddyn nhw’n cael mynediad i Stadiwm y Mileniwm ar gyfer gêm agoriadol pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ond mae’r cefnogwyr hynny sydd wedi prynu pecynnau a thocynnau gan gwmnïau answyddogol yn mynd i gael eu hatal rhag gwylio’r gêm.

Fe fydd taflenni’n cael eu dosbarthu yng Nghaerdydd ddydd Gwener yn hysbysu unigolion sydd wedi prynu’r pecynnau answyddogol eu bod nhw’n wynebu cael eu troi ymaith o’r stadiwm.

Mae’r Undeb Rygbi wedi cysylltu gyda’r Swyddfa Masnachu Teg a’r Awdurdod Safonau Hysbysebu ynglŷn â’r pecynnau answyddogol mewn ymdrech i warchod cefnogwyr.

“Ry’n ni’n benderfynol o reoli masnach pecynnau lletygarwch er mwyn lles pawb,” meddai rheolwr Stadiwm y Mileniwm, Gery Toms.

“Ry’n ni’n dilyn esiamplau sefydliadau megis Undeb Rygbi Lloegr sydd eisoes wedi cymryd camau tebyg.

“Fe fydd y clybiau sy’n aelodau o’r undeb yn parhau i allu gwerthu tocynnau Events International uwchben y pris gwreiddiol fel rhan o fasnach gyfreithlon sy’n cynhyrchu arian ar gyfer eu datblygiad.”