Margaret John yn un o raglenni 'Gavin and Stacey'
Mae’r actores Margaret John – oedd yn adnabyddus fel Doris ar y rhaglen deledu Gavin and Stacey wedi marw yn 84 blwydd oed.

Fe ddywedodd ei hasiant, Gemma McAvoy, fod y seren sy’n wreiddiol o Abertawe wedi marw yn yr ysbyty yn ystod oriau mân bore heddiw ar ôl dioddef salwch am gyfnod byr.

“Mae ei gyrfa wedi para 60 mlynedd ac mae wedi gwneud popeth o ffilmiau i deledu, radio a rhannau gwych yn y theatr,” meddai Gemma McAvoy.

“Roedd yn sôn am sut dechreuodd drwy chwarae llawer o rannau trasig ac mai dim ond wedyn wnaeth pobl sylweddoli bod ganddi hiwmor gwych.

“Roedd yn teimlo fel ffrind i ni gyd – ddim cyd-weithiwr yn unig ac fe fyddwn yn ei cholli,” meddai.

Fe ddywedodd hefyd bod ei chariad at fywyd yn “heintus” a bod llawer o hiwmor ganddi.