Betsan Llwyd
Mae actores amryddawn sy’ wedi serennu dros y blynyddoedd mewn cynyrchiadau teledu gan gynnwys Pen Talar a Talcen Caled yn mynd i fod yn camu’r tu ôl i’r llwyfan yn ei rôl diweddaraf.

Mae Betsan Llwyd wedi ei phenodi’n Gyfarwyddwr Artistig newydd Cwmni Theatr Bara Caws.

 Fe fydd hi’n cymryd yr awenau gan Tony Llewelyn ym mis Ebrill, ac mae wrth ei bodd yn cael rhan mor flaenllaw mewn cwmni y mae’n ei “edymygu” ac wedi ei ddilyn “ers ei sefydlu gynta’ erioed.”

 Mae Betsan Llwyd yn hen law ar actio a chyfarwyddo erbyn hyn, a hi fu’n gyfrifol am gyfarwyddo’r un o ddramâu mwyaf llwyddiannus Theatr Bara Caws y llynedd, sef y trosiad i lwyfan o nofel arobryn Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad.

Wrth groesawu penodiad Betsan Llwyd heddiw, a ffarwelio â Tony Llewelyn ar ôl naw mlynedd wrth y llyw, dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Cyfarwyddwyr bod y penodiad yn un cyffrous iawn i’r cwmni.

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw am gael cydweithio â hi,” meddai John Gwynedd Jones.

 “Byddwn yn sicr yn elwa o’i phrofiad helaeth.”

 Triawd newydd celf Cymru

 Bydd Betsan Llwyd yn dechrau ar ei gwaith ym mis Ebrill– yr un adeg ag y bydd dwy arall hefyd yn cymryd yr awenau mewn dau sefydliad celfyddydol arall yn y gogledd.

 Y bore yma fe ddatgelodd Golwg360 fod Mari Emlyn wedi ei phenodi’n Gyfarwyddwr Artistig ar ganolfan gelfyddydol y Galeri yng Nghaernarfon, tra bod ei rhagflaenydd, Elen ap Robert, yn mynd i fod yn Gyfarwyddwr Artistig canolfan gelfyddydol Pontio ym Mangor ym mis Ebrill hefyd.

 Wrth ymateb i’r newyddion am benodiad Betsan Llwyd, a chreu’r triawd newydd fydd yn arwain rhai o sefydliadau drama blaenllaw gogledd Cymru yn y blynyddoedd nesaf, dywedodd Mari Emlyn fod “cyfnod newydd ar gelf yng Nghymru ar fin dechrau, gyda tair dynes wrth y llyw”.

Catrin Hâf Jones