Bethan Jenkins AC yn 'siomedig'
Fe fydd y gwasanaeth fferi rhwng Abertawe a Corc yn dod i ben a 78 o weithwyr yn colli eu swyddi.

Cafodd y gwasanaeth ei atal ym mis Tachwedd oherwydd “cynnydd ym mhrisiau tanwydd” ond roedd na obaith y byddai’n ail-ddechrau ym mis Mawrth.

Mae’n debyg y bydd y cwmni oedd yn rhedeg y gwasanaeth, Fastnet Line, yn cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Dywed perchnogion y fferi West Cork Tourism Co-operative Society bod “biwrocratiaith” wedi atal ymdrech funud olaf i ail-lansio’r gwasanaeth er gwaetha addewidion am gymorth ariannol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y  newyddion yn siomedig ond roedd yn mynnu nad oedd cynlluniau i geisio achub y gwasanaeth yn  “ymerferol yn fasnachol”.

‘Siomedig’

Mae AC Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru Bethan Jenkins wedi dweud bod y newyddion yn “siomedig”.

“Rydym yn siomedig dros ben fod Fastnet Line yn torri eu gwasanaeth fferi rhwng Abertawe a Chorc gan golli 78 o swyddi, ac y mae’n meddyliau gyda’r gweithwyr a’u teuluoedd. Rydym oll yn boenus ymwybodol o anhawster yr hinsawdd economaidd, a heb unrhyw weithredu gan y llywodraeth Lafur yng Nghymru i hybu’r economi, all hyn ond dirywio.

“Soniais am y pryderon hyn wrth y Prif Weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth, a methodd ef â dweud wrthym a oedd ei lywodraeth wedi asesu’r canlyniadau ariannol i economi Cymru petai’r gwasanaeth yn dod i ben. Galwaf arno i sicrhau ei fod yn gwneud popeth yn ei allu i ofalu na fydd gormod o effaith ar dwristiaeth, yr economi na busnesau”.

Galw am wasanaeth newydd

Mae Peter Black AC y Dems Rhydd yn Ne Ddwyrain Cymru wedi dweud bod y gwasanaeth wedi bod yn werth tua £20 miliwn i economi Abertawe.

“Mae’n hanfodol bod Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru ac Iwerddon yn cyd-weithio i ddarparu gwasanaeth arall cyn gynted a phosib os yw’n ymarferol i wneud hynny,” meddai.