Ysbyty Bronglais
Mae dros 80% o feddygon ysbyty Bronglais wedi arwyddo llythyr yn mynegi diffyg hyder ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda heddiw, yn sgil cynlluniau i symud gwasanaethau i Gaerfyrddin.

Yn y llythyr at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Trevor Purt, dywed y meddygon eu bod wedi colli ffydd yng ngwaith y bwrdd.

Mae’r meddygon yn gwrthwynebu cynlluniau sydd wedi cael eu rhoi gerbron ar gyfer torri gwasanaethau yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth a’u symud i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin – sydd fwy nag awr i ffwrdd.

‘Colli pob hyder’

“Rydyn ni wedi colli pob hyder yn ymroddiad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i’n cefnogi ni wrth ddarparu’r gwasanaethau r’yn ni’n eu darparu yn lleol,” meddai’r llythyr, sydd hefyd wedi ei anfon at y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths.

Mae’r meddygon yn dweud fod y cynlluniau newydd yn mynd yn groes i egwyddor darparu gwasanaethau effeithlon i gleifion.

“Mae’r cynnig i symud unrhyw wasanaeth yn mynd yn erbyn yr ethos o gadw gofal yn lleol, ac fe fydd nifer o sgil effeithiau i hyn.

“Mae’n beryglus i ddibynu ar gael gafael ar ambiwlans, heb sôn am hofrennydd, ar gyfer trosglwyddo unigolion ar frys. Weithiau mae’n amhosib, hyd yn oed nawr, i gael gafael ar ambwilans golau glas pan fod angen,” meddai’r llythyr.

Mae’r meddygon yn dweud na ddylai neb fod yn gorfod teithio mwy na 60 munud i gael  triniaethau meddygol. Maen nhw hefyd yn dweud bod y Llywodraeth wedi torri eu haddewidion etholiadol, pan addawyd y byddai Ysbyty Bronglais yn cael ei chadw a’i datblygu yn ysbyty ganolog ar gyfer gofal iechyd gwledig.

Wrth ymateb i’r llythyr heddiw, mae Llefarydd Iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, wedi dweud bod yn rhaid i’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, ddechrau “gwrando ar staff clinigol blaenllaw, sy’n credu y gallai cynlluniau israddio Llafur beryglu cleifion canolbarth Cymru, yn ogystal â datgymalu ein gwasanaeth iechyd ar lefel leol.”

Dywedodd hefyd fod Llafur wedi “camarwain pobol ar ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.”

Mae Golwg 360 wedi gofyn am ymateb gan y Gweinidog Iechyd.