Darparu gofal 24 awr wedi cyfrannu tuag at y gostyngiad
Mae strategaethau i  geisio lleihau nifer y bobl sy’n cyflawni hunanladdiad wedi arwain at ostyngiad yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r awdurdodau iechyd a fu’n dilyn y canllawiau wedi gweld gostyngiad yng nghyfraddau hunanladdiad rhwng 1997 a 2006.

Ond doedd yna ddim newid ymhlith yr awdurdodau na fu’n dilyn y canllawiau.

Cafodd yr ymchwil ei gyhoeddi yng nghylchgrawn meddygol The Lancet.

Argymhellion

Cafodd yr argymhellion eu gwneud yn yr 1990au gan Ymchwiliad Cenedlaethol Cyfrinachol i Hunanladdiad a Llofruddiaeth gan Bobl gydag Afiechyd Meddwl.

Rhwng 1997 a 2006, cofnodwyd 12,281 achos o hunanladdiad gan 91 gwasanaeth iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr.

Erbyn 2006, roedd awdurdodau a fu’n dilyn rhwng saith a naw o’r cyfarwyddiadau wedi cofnodi cyfradd o 9 hunanladdiad i bob 10,000.

Mewn awdurdodau oedd yn gweithredu rhwng 0 a 6 o’r canllawiau, roedd y gyfradd hunanladdiad yn 11 i bob 10,000.

Cefnogaeth

Y dylanwad mwyaf amlwg oedd darparu gofal argyfwng 24 awr.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd: “Mae colli rhywun chi’n ei garu yn drasiedi, ac rydym ni am wneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i rwystro hunanladdiad ac i gynnig y cefnogaeth sydd ei angen ar bobl sy’n teimlo’n fregus.

“Mae’r ymchwil yn dangos sut mae’r ymddiriedolaethau iechyd meddwl sydd yn dilyn y canllawiau wedi achub bywydau, ac rydym ni am i awdurdodau iechyd meddwl edrych yn ofalus ar y canlyniadau.”