Alun Davies
Mae ffermwyr wedi cael rhybudd y gallen nhw wynebu deddfau newydd os na fydd rhagor yn ymuno gyda’r cynllun ffermio newydd, Glastir.

Dyna’r awgrym mewn datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies, wrth gyhoeddi’r ffigurau diweddara’ am y cynllun amaeth-amgylcheddol sy’n cynnig arian i ffermwyr am ofalu am yr amgylchedd.

Mae hefyd wedi awgrymu y gallai’r diwydiant amaeth golli’r arian sydd ar gael os na fydd ffermwyr yn ei hawlio.

Glastir yw ffordd y Llywodraeth o dalu i ffermwyr am gwrdd â gofynion yr Undeb Ewropeaidd – y dewis arall fyddai deddfau a dim iawndal, meddai.

Adolygiad arall

Mae Alun Davies hefyd wedi cyhoeddi y bydd adolygiad arall o’r cynllun sydd wedi cael ei feirniadu’n hallt gan yr undebau ffermio.

Fe ddywedodd y byddai’n barod i wrando ar gynigion am ffyrdd o wella’r cynllun ac fe bwysleisiodd bod y broses o rannu gwybodaeth amdano eisoes wedi ei newid.

“Bydd y broses pwyso a mesur yma’n digwydd yn ystod y misoedd nesa’ ac wedi gorffen erbyn dechrau’r haf,” meddai.

Dim ond 1,698 o ffermydd sydd bellach wedi ymuno gyda phrif elfen Glastir ac, er y bydd rhagor yn ymuno wrth i gynlluniau eraill ddod i ben, dim ond hanner y 10,300 yn y cynllun Tir Mynydd sydd wedi mynegi diddordeb.

Geiriau’r Gweinidog

“Mae’r diwydiant ffermio yng Nghymru’n ymwybodol fod £89 miliwn y flwyddyn ar gael ar hyn o bryd ar gyfer Glastir a’r cynlluniau amaeth-amgylcheddol sy’n dod i ben.

“Os na fydd yr arian yna’n cael ei gymryd, fe fydd llawer o alwadau am iddo gael ei ddefnyddio mewn meysydd eraill.

“Mae Glastir yn cynnig peirianwaith er mwyn i Lywodraeth Cymru allu rhoi iawndal i ffermwyr am eu gweithredoedd i gyflawni’r hyn y mae’n rhaid i Gymru ei gyflawni o ran nifer o Orchmynion Ewropeaidd.

“Mae’n bosib iawn mai’r dewis arall yn lle Glastir fydd deddfwriaeth heb y taliadau iawndal y mae ffermwyr yn Glastir yn eu mwynhau.”